大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Y Goriad Newydd Y Samariad Trugarog yn agor drysau
Medi 2007
Goriad newydd arbennig i Eglwys St Cristiolus.
Mae pawb sy'n symud i d欧 newydd angen goriad - ac felly hefyd oedd y sefyllfa pan ddaeth Ficer newydd i blwyf Llangristiolus - roedd angen copi o allwedd arno ar gyfer drws yr Eglwys.

Ond nid goriad cyffredin mohono, roedd hwn yn mesur dros 5 modfedd ac o wnaethuriad haearn trwchus.

Ar 么l troedio nifer o siopau a gwneud ymholiadau lu - roedd yn ymddangos na fyddai hon yn dasg hawdd i'w chyflawni wedi'r cyfan.

Pwy felly oedd am greu a thorri goriad, o'r newydd?

Troi at Sion, o Tan yr Onnen, Pentre Berw fu'n rhaid! Dyn sydd o hyd yn barod lawn ei gymwynas ac yn enwedig ar gyfer unrhyw achos teilwng.

Yn dilyn archwiliad gofalus a manwl o'r goriad, dyma'r hen eiriau cyfarwydd yn cael eu hadrodd o enau y dibynadwy John Pritchard - "Gad o efo fi - tyrd yn 么l wythnos nesaf!"

Un "cloi" ydy John am weithio - oherwydd llai na wythnos yn ddiweddarach roedd y goriad yn barod! Ac fel y gwelwch chi o'r llun, mae o'n gampwaith a llawer iawn o feddwl wedi mynd i'r gwaith ac mae'r goriad hyd yn oed yn well na'r gwreiddiol gyda'r groes a chalon wedi eu hychwanegu at y copi. A'r eglurhad gan y crefftwr, "croes y dioddefaint wedi ei hamgylchynnu 芒 chalon, gwir ystyr o Gariad Crist tuag atom i gyd."

Diolch o "galon" i ti John am fod mor barod dy gymwynas tuag at yr Eglwys. Mae dy garedigrwydd a'th haelioni yn golygu y bydd y Parchedig Emlyn Cadwaladr Williams yn agor drysau Eglwys St Cristiolus yn wythnosol am 11.15 y bore! Ac mae yntau'n teimlo'n 21 eto yn cael goriad newydd!!

Geiriau D.T. Peacock


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy