大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Ysgrifennu ar lechen yn Llanystumdwy Penblwydd Ysgol Llangaffo yn 150
1854 - 2004

Gorffennaf 2004
Anrhydedd o'r mwyaf oedd cael cwmni Machraeth a oedd wedi cyfansoddi englyn i ddathlu'r penblwydd.
Yn ychwanegol, cawsom y fraint a'r anrhydedd o groesawu Mrs EIsie Jones i ddadorchuddio'r englyn oedd wedi ei naddu ar lechen. Balch iawn oedd Anti EIsie o gael cwmni Jac Jones, yr ieuengaf yn yr ysgol i afael yn ei llaw yn dynn.

Dyma hanes y dathlu gan ohebydd yr ysgol - Elin Meredydd 11 oed
Cyngerdd, diwrnod Fictoraidd, parti ac aduniad, dyna beth a gafwyd yn Ysgol Llangaffo yr wythnos diwethaf. Y rheswm? Roedd yr ysgol yn dathlu ei phenblwydd yn 150 oed!

Cyngerdd: I gychwyn y dathliadau cafwyd cyngerdd ar y nos Fercher. Roedd canu caneuon hen ffasiwn a dawnsio gwerin i gyfleu y gorffennol a dawnsio disco ac unawdwyr i gyfleu y presennol a chaneuon Eisteddfod yr Urdd i gyfleu'r dyfodol. Hefyd cafodd plac gyda'r engIyn gan Machraeth ei ddadorchuddio gan Mrs Elsie Jones, cyn ddisgybl o'r ysgol sydd yn 90 oed, a Jac, disgybl fenga'r ysgol sy'n 4 oed. "Mi wnes i fwynhau y plant yn canu a dawnsio yn arw ac mae'n anodd credu bod yr ysgol yn dal yn rhedeg ar 么l 150 o flynyddoedd gan bod nifer y plant yn yr ysgol yn isel gyda dim ond 37 o ddisgyblion", meddai Mrs Jones.

Diwrnod Fictoraidd: Dydd Iau cafwyd diwrnod Fictoraidd ble roedd y plant yn gwisgo i fyny, cael addysg a bwyd Fictoraidd. Hefyd daeth S4C i ffilmio. "Roedd Mr Rowlands yn llym ofnadwy ac roeddwn i a fy ffrind Elin yn blant drwg yn fwriadol i weld beth fasa yn digwydd i ni", meddai Rachel, disgybl 11 oed.

Ymweliad: Ond dim hynny oedd diwedd y dathliadau, o na! Dydd Gwener aeth disgyblion Ysgol Llangaffo ar ymweliad ag Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy. Cafodd y plant weld fideo am Oes Fictoria a daeth dyn o'r enw Mr Williams i gael sgwrs 芒 hwy. Wedyn aethant i weld y bwthyn ble roedd Lloyd George yn byw, Bwthyn Highgate. "Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig i blant wybod sut roedd bywyd yn y cyfnod", meddai Mr Williams.

Ar 么l cinio cafodd y plant fynd i ddosbarth o'r cyfnod Fictoria. "Roedd hi'n brofiad hwyliog", meddai Mared Meredydd ac "Mae gwisgo i fyny yn wych", meddai Alaw Meredydd, disgyblion o'r ysgol.

Y Parti: Ar 么l dychwelyd i'r ysgol cafodd y plant barti annisgwyl. Hefyd roedd arddangosfa i'r cyhoedd a chafwyd aduniad i gyn ddisgyblion. "Cawsom ni frechdanau, creision, bisgedi a llawer mwy yn y parti", meddai Lucy Kelly, disgybl 6 oed oedd yn amlwg wedi mwynhau y parti!

"Roedd yr athrawon wedi hel llawer o luniau ac roedd yr arddangosfa yn werth i'w gweld", meddai Tom Whalley, cyn ddisgybl o'r ysgol.

"Rwy'n falch iawn fod popeth wedi mynd yn iawn a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran ac am yr holl gefnogaeth", meddai prifathrawes yr ysgol, Mrs Ann Roberts.

Elin Meredydd


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy