大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glorian
Canig Canig
Chwefror 2005
M么n i 'Merica ac yn 么l i'r Fali. Dyna oedd hanes tri o 诺yr yr ynys yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae Dafydd Ifan Jones o Lanallgo, Merfyn Watcyn Owen o Rosfawr a Geraint Annwyl Williams o Fodfford (gynt o Dan y Bryn, y Fali) yn canu efo'i gilydd ers pum mlynedd bellach. Mae'r tri hefyd yn aelodau o Gantorion Colin Jones, c么r o hanner cant o leisiau sydd newydd fod ar daith yng Nghaliffornia.

Cafodd y tri Monwysyn wahoddiad i ymestyn eu hymweliad i ganu yng Nghymanfa Ganu Los Angeles.

Merch o'r Brithdir, Dolgellau oedd yn arwain. Mae Rhiannon Evans Acree yn aelod o deulu cerddorol Gwanas ond yn byw yn Long Beach ers pum mlynedd ar hugain. Roedd yr achlysur yma yn gyfle hefyd i'r triawd gyfarfod ag un o leisiau cyfarwydd Radio Cymru.

Cyfrannodd y Parchedig I. D. E. Thomas yn gyson at raglenni newydd yr orsaf ers blynyddoedd maith.

Ddyddiau'n unig ar 么l dychwelyd o'r Unol Daleithiau, roedd Dafydd, Merfyn a Geraint yn canu yng Ngwesty'r Fali gan rannu'r llwyfan hefo'r gr诺p Broc M么r, mewn noson ddifyr i godi arwain i Eisteddfod M么n. Mae Canig yn canu mewn cyngherddau a chymanfaoedd ar hyd a lled yr ynys erbyn hyn.

Fe'u clywir hefyd yn canu fel triawd ar gryno-ddisg newydd Cantorion Colin Jones ac wedi dechrau ar y gwaith o gasglu caneuon ar gyfer eu disg eu hunain.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy