Daeth nifer ynghyd ddydd Mercher, lonawr 27ain, 2010 pan gynhaliwyd seremoni fer yn Stryd yr Eglwys, Llangefni i gyflwyno'r murlun yn swyddogol i'r Dref ac i ddadorchuddio'r bwrdd dehongli a fydd yn gymorth i bobl werthfawrogi'r llun.
Yn ei araith agoriadol croesawodd Dic Pritchard, Cadeirydd Cwmni Tref Llangefni, y Cynghor卢ydd Clive McGregor, Arweinydd Cyngor Sir Ynys M么n, i'r seremoni a diolchodd i Mr Keith Thomas, perchennog siop J. Thomas a'i Feibion, cigyddion, am ganiat谩u i'r murlun gael ei osod ar dalcen ei siop. Diolchodd i Mr Haydn Davies, pennaeth Ysgol Gyfun Llangefni am ei gydweithrediad ac i Mrs Rowenna Sanderson, pennaeth Adran Gelf yr ysgol am ei brwdfrydedd, ei hanogaeth a'i gallu arbenigol. Ond yn bennaf diolchodd i'r artist, Dafydd Prys Thomas o Langristiolus sydd yn fyfyriwr chweched dosbarth yn yr Ysgol Gyfun a lIongyfarchodd ef ar ei waith ardderchog.
Mae Partneriaeth Cyngor Tref Llangefni a'r Ysgol Gyfun yn ddiolchgar dros ben i Menter M么n am ei wasanaeth a'i gymorth i sicrhau grant o Gronfa Amgylchedd Trefi a Phentrefi, sy'n rhan o raglen cyllido Cynllun Datblygu Cefn Gwlad y Cynulliad, ar gyfer gosod y murlun a gwneud a gosod y bwrdd dehongli.
Talwyd am y paent a'r paneli gan Gwmni Tref Llangefni. Yn dilyn araith berthnasol gan y Cynghorydd McGregor
gofynnodd i Dafydd ymuno ag ef i dynnu baner y ddraig goch oedd yn gorchuddio'r bwrdd dehongli.
|