|
|
|
Herio pawb yn Seland Newydd Ebrill 2004 Rhydian Evans, Tynant sydd newydd ddychwelyd adref o'i daith i Seland Newydd. |
|
|
|
Cyrraedd maes awyr Christchurch ar yr 28ain o Hydref am 12 o'r gloch y prynhawn (mae Seland Newydd 13 o oriau o flaen ein hamser ni). Dal y bws wedyn i fynd lawr i Invercargill sydd ar waelod Ynys y De. Y daith yn y bws yn cymeryd 10 awr, gweld trwch o eira ar y Southern Alps wrth deithio.
Cyrhaeddais Invercargill am 2 o'r gloch y bore, ac yno yn fy nisgwyl roedd Kerry a Dawn Stratford, y bobol roeddwn yn mynd i aros gyda nhw am bron i bum mis. Roeddynt yn bobol groesawgar iawn, ac yn fuan roeddwn wedi setlo lawr i fywyd allan yn Seland Newydd. Cefais ychydig o ddyddiau i ymlacio o'r daith cyn dechrau cneifio.
Roeddwn yn cneifio bob dydd heblaw am ddydd Sul yn y ffermydd o amgylch gwaelod Ynys y De. Roedd y defaid yn fawr o frid Coopworth, croesiad o Leicester a Romneys. Roedd yn wl芒n hir a thrwm, ac o ansawdd da. Cefais bythefnos i ffwrdd o'r cneifio dros wyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ac mi f诺m yn ffodus i gael mynd gyda'r teulu i wahanol ardaloedd yn Seland Newydd, sef Gore, Queenstown, Dunedin, Alexandra a Cromwell, ac hefyd i Waith Aur yn Laurence o'r enw Gabriel's Gully. Mi fuom yn aros ar fferm 550 cyfer ger Laurence yn cadw 1450 o ddefaid, 300 o deirw o frid Fresian a 200 o geirw coch. Cefais amser da iawn yno yn mynd o amgylch y fferm ar gefn motor beic er mwyn symud yr anifeiliaid.
Cefais gyfle i ymweld 芒 llawer o weithgareddau allan yna fel sioe hen beiriannau, a rodeo lle roeddynt yn marchogaeth ceffylau gwyllt a theirw. Cefais fynd i'r lladd-d欧 lleol yn Invercargill lle roeddynt yn lladd 诺yn. Roedd pedair lein yn symud ddydd a nos, a dwy fil o bobol yn gweithio yno. Cwrddais 芒 John Tocher o Diamond Peak yn Gore. Roedd e'n cadw buches o 350 o wartheg duon Cymreig. B诺m yn ymweld 芒 fferm odro yn cadw 800 o wartheg, a'r cyfan yn cael eu godro mewn pedair awr.
Buom lan yn Ynys y Gogledd am wythnos yn nechrau Mawrth ble buom mewn dwy gystadleuaeth fawr.
Cefais ail yn y dosbarth iau yn Pahiatua, a'r sioe olaf y b诺m ynddi oedd y Golden Shears yn Masterton. Roedd y gystadleuaeth yma'n para tri diwrnod. Roedd yr awyrgylch yn drydanol iawn yn y neuadd ble roedd yn cael ei chynnal. Cwrddais 芒'r cneifwyr eraill o Gymru yn y sioe yma, ac roedd yn dda clywed cefnogwyr o Gymru yn fy annog ymlaen yn y ffeinal.
Ar 么l gorffen yn y sioe, teithio yn 么l i Invercarcill. Roedd y daith yn y cwch o Ynys y Gogledd i Ynys y De yn cymryd tair awr, ac yna teithio tair awr ar ddeg o oriau mewn cerbyd. Dechrau hedfan am adref bore dydd Sul, Mawrth 14eg a chyrraedd Manceinion erbyn 6.30 bore dydd Llun, Mawrth 15ed.
Cefais brofiad bythgofiadwy allan yn Seland Newydd a llawer o hwyl.
|
|
|
|
|
|