大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Mali James gyda Everest y tu 么l iddi Ar ben y Byd!
Mehefin 2008
Hanes Mali James a lwyddodd i gyrraedd 'Base Camp' mynydd Everest.

Drwy fy ngwaith yn trefnu digwyddiadau i British Heart Foundation (BHF) Cymru rwy'n annog pobl I gymryd rhan yn y digwyddiadau rwy'n trefnu on d n么l ym mis Ionawr ces gynnig gan fy rheolwyr i fynd ar ddigwyddiad tra gwahanol. Y gamp fyddai cyrraedd Base Camp mynydd ucha'r byd - Everest!

Ond nid fi'n unig oedd yn cael y cynnig - dim and un enw mewn het oeddwn i a rhaid croesi bysedd! Roedd dros 20 ohonom wedi cael y cynnig a chefais dipyn o sioc i gael galwad ff么n i ddweud taw'n enw i ddaeth allan! Gyda dim on 3 mis i geisio ymarfer a pharatoi'r corff ar gyfer yr 14 diwrnod o gerdded cyson b没m yn ymarfer ym Mannau Brycheiniog yn wythnosol.

Ar yr 28ain o Ebrill cwrddais 芒 'r criw o 43 unigolyn oedd wedi codi yn agos i 拢4000 yr un i'r BHF a chychwyn ar yr antur i Nepal! Ac am antur! Dim and un noson i ddod dros y jet lag yn Kathmandu cyn hedfan ar "lastig band" o awyren i faes awyr Lukla yn Himalaya, 2860m.

Fe gymerodd 8 diwrnod i ni gyrraedd y Base Camp: dau unigolyn yn gorfod cael hofrennydd allan o'r mynyddoedd oherwydd salwch; dau ddim digon ffit i fynd yr holl ffordd ac un yn cael trafferth gyda'r altitude! Nid oedd modd paratoi ar gyfer yr altitude a doedd oedran na' ffitrwydd ddim yn 'ffactorau allweddol. Mater o lwc oedd e yn y pen draw ac roeddwn i yn lwcus!

Cerdded drwy bentrefi bychan, yna pasio ffermydd unigol cvn cyrraedd ardal anal y Base Camp ar uchder o 5600m. Roedd y lle fel cymuned fechan, gyda Maer ei hun ac fe oedd yn trefnu'r holl le. Roedd degau o bebyll yno yn Ilawn expeditions yn,aros am y cyfle i gychwyn am dop y mynydd! Gan fod ffagl yr Olympics ar ei ffordd drwy Nepal ac i fod i gyrraedd copa Everest run pryd, segur oedd pawb yn y Base Camp gan fod y mynydd ar gau tan i'r ffagl gael ei gario i'r copa yn saff.

Dim and 40 munud y treuliasom yno - digon o amser i grio gyda balchder ein bod wedi cyrraedd, edrych o gwmpas a thynnu llun fe tystiolaeth ein bod wedi cwblhau y dasg! Yna troi n么l a chychwyn ar y daith lawr - taith o 8 diwrnod i fyny - n么l lawr mewn 3!

Wel, am brofiad a hanner. Poen coesau o gerdded 8 awr bob dydd, dim cawod am bythefnos, a rhannu pabell gyda dieithryn ar ddiwrnod 1 and person a oedd yn ffrind am oes erbyn diwrnod 17 yn sgil yr holl emosiwn o wybod ein bod wedi dringo i un o uchelfannau'r byd yng nghwmni ein gilydd.

Roedd pawb o'r criw yn holi ar y ffordd i lawr - "byddet tin gwneud e 'to?" a'r ateb oedd "na nefar!". Erbyn hyn yn dilyn rhai misoedd adre, nol i rigmar么l bywyd 9 tan 5 mae'r ateb yn wahanol - "baswn heb feddwl dwywaith". Ac os a i lan yna eto dwi'n addo mynd a chopi o Papur Pawb a thynnu llun o fi a'r papur ar y mynydd mawr!!!

Ysgrifenwyd yr erthygl gan Mali James


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy