0s ewch chi heibio Oriel y Bont, Stryd y Bont, Aberystwyth, fe welwch arddangosfa luniau o waith Rwth Jen.
Lluniau bychain ydynt, ac ym mhob llun mae tair menyw fach yn eu gwisgoedd Cymreig, weithiau'n sipian te, dro arall yn dadiau neu'n myfyrio neu'n chwifio'u breichiau o gwmpas y lle.
Beth wnaeth i Rwth ddilyn y trywydd yma? Mae hi'n byw yn Nhalybont, mewn ardal ble bu'r diwydiant gwlan mor bwysig, ac mae wedi ymchwilio i'r hanes Ileol.
Hefyd denwyd hi a phatrymau brethyn diddorol a welodd yn ffatri wlan Drefach Felindre.
Daeth hyn a hi at y syniad o fenywod Cymru yn gwisgo dillad brethyn o wead cartref. Cymru yw'r unig wlad ym Mhrydain sydd a gwisg gwbwl draddodiadol a honno wedi datblygu'n uniongyrchol o'r dillad a wisgid gan y werin bobol.
Ond fe ddatblygodd y wisg er mwyn apelio at dwristiaid. Bu addasu a moderneiddio ar y dillad. Weithiau gwelech siol sidan o'r dwyrain gyda phatrymau celfydd, neu ychwanegid Ilawer o ffrils a chotwm a les.
Er na welsai'r twristiaid neb go iawn yn gwisgo'r dillad hyn yng Nghymru, roeddynt wrth eu bodd yn prynu doliau a chardiau gyda Iluniau o fenywod bach bochgoch yn gwisgo het a bodcyn.
Ai ffotograffwyr o gwmpas gyda phecyn parod o ddillad a thynnu Iluniau gwahanol fenywod yn gwisgo'r un dillad er mwyn dangos eu hunain i'r camera.
Byddai siopau megis Wool卢worth yn gwerthu pecynnau parod 'Gwisg Gymreig' i blant bach Cymru gael eu gwisgo ar Ddydd Gwyl Dewi.
Math o sidan ffug oedd y rheini gyda phob un yn union yr un fath. Portread ffug a chopi gwael o'r wisg gyntefig oeddynt, yn rhoi'r syniad na allai'r ladis bach Cymreig wneud dim ond yfed te, gwau a chloncan drwy'r dydd.
Mae Rwth wedi trawsnewid y syniad henffasiwn yma. Ymhlith y delweddau a greodd mae doliau bach gyda sgert fawr lydan i guddio rholyn o bapur t欧 bach. Os edrychwch chi'n fanwl ar ei Iluniau fe welwch nad yw Ruth yn gallu ymatal rhag dod ag elfennau doniol i mewm. Pob hwyl i Rwth gyda'r cyfeiriad newydd yma yn ei gwaith. Unwaith eto mae hi'n profi pa mor agos yw Cymreictod a gwreiddioldeb.
|