Ddiwedd 2004 mi glywais bod S4C yn chwilio am raglenni am Gymry ifanc sy'n dilyn gyrfa ddifyr. Bu^m yn holi pawb a chlywais am gyn-ddisgybl ym Mhenweddig oedd yn gweithio yn Sierra Leone i'r Cenhedloedd Unedig - Tom Cairnes. Es ati i e-bostio a chael nodyn bywiog yn 么l yn dweud bod croeso i mi ei ddilyn wrth ei waith!
Mae ganddo hanes anhygoel gan iddo weithio fel
ymgynghorydd busnes i un o gwmn茂au mwyaf dylanwadol Llundain ac Efrog Newydd am dair mlynedd. Dewisodd droi ei gefn at y bywyd bras a mynd i weithio yn ngwlad dlotaf y byd yn helpu'r bobol i greu economi i'w gwlad. Wrth e-bostio Tom i drefnu'r cyfnod ffilmio, soniodd y byddai'n hoffi creu cysylltiad rhwng ysgol o Gymru ac ysgol yn Freetown, prif ddinas Sierra Leone. Atebais yn syth, gan wybod y byddai Ysgol Gynradd Tal-y-bont yn barod iawn i helpu (doedd ddim angen gofyn!) Cefais sioc wedyn pan atebodd i ddweud ei fod yn gyn-ddisgybl yn Nhal-y-bont - do'n i ddim yn gwybod ei fod yn grwt mor lleol! Bydd llawer o'r ardal yn cofio Tom a'i deulu yn byw yn Nhaliesin. Codwyd 拢75 gan blant Ysgol Tal-y-bont ac ar 么l i'r cwmni gyfrannu ychydig roedd hi'n bosib prynu beiro, pensil, creon lliw, ffolder, llyfr ysgrifennu a sialc i bob plenryn ac athro - dros 500 i gyd. Mae hynny yn lawer iawn o fagiau - bu sawl munud tense iawn yn y maes awyr gan eu bod yn aruthrol o drwm, ond bu ewyllys da o'n plaid ni a chawsom fynd 芒 phopeth gyda ni i Ysgol Caerdydd, Freetown lle y mae Tom yn helpu bob yn ail benwythnos.
Yno mae 10 dosbarth gyda rhyw 50 o blant ymhob un, ac oedrannau'r plant yn amrywio o 3 i 17 oed - y rhai hynaf wedi colli'r cyfle i gael addysg pan yn blant bach oherwydd y rhyfel cartref erchyll. Roedd y dosbarthiadau mewn adeiladau tlawd iawn yr olwg ac mae sawl buwch yn Nhal-y-bont yn byw mewn siediau mwy cyffyrddus. Er tloted y plant a'r ysgol, roedd y croeso yn gynnes iawn. Roedd yr athrawon mor falch o gael peth mor syml 芒 sialc - hwnnw wedi gorffen a dim gobaith prynu mwy. Roedd yr heb gyflog ers chwe mis ac yn gwneud gwaith arall gyda'r nos er mwyn cynnal eu hunain. Roedd plant Tal-y-bont wedi ysgrifennu llythyron a gwneud lluniau i'r plant a dywedodd yr athrawon wrthon ni am ddychwelyd ddiwedd yr wythnos a byddai yna lythyron i ddod n么l i Gymru. Yn y llun mi welwch chi'r olygfa oedd yn ein disgwyl ymhen dyddiau - y plant lleiaf i gyd 芒'u llyfr sgwennu - ac roedden nhw mor falch o'r gwaith yr oedden nhw wedi ei wneud yr wythnos honno. Llyfr cyntaf y mwyafrif gan eu bod yn rhy dlawd i allu prynu un. Roedd yna bentwr o luniau a llythyron i ddod yn 么l i Dal-y-bont hefyd - ysgrifau a delweddau ffantastig. Beth yw'r ddelwedd sy'n aros yn y cof i mi? Y plentyn bach oedd yn byw gyda'i athrawes gan bod ei fam a i dad wedi eu lladd yn y rhyfel. Does gennym ni ddim amgyffred, yn nag oes? Nid gwlad wahanol yw hon, nid cyfandir gwahanol - mae'n fyd hollol wahanol. Bydd y rhaglen am Tom Cairnes yn ymddangos ar S4C ym mis Mawrth. Erthygl gan Catrin M S Davies
|