Roedd Anna Prydderch a'i chydweithwyr o Cyswllt Busnes yno i gynghori pawb a alwai heibio ynglyn 芒'r cyfleoedd a'r grantiau a oedd ar gael i gynorthwyo busnesau newydd. Roedd Andy Rowland o ecodyfi yno hefyd i esbonio eu cynlluniau hwythau ac i gynnig cyngor perthnasol. Prif bwrpas y diwrnod agored a'r Cyfarfod Cyhoeddus a gynhaliwyd i ddilyn, oedd rhoi cyfle i Bartneriaeth Egin drafod ymhellach gydag aelodau'r gymuned ynglyn 芒'r priodoldeb o ddatblygu Canolfan / Parc Busnes yn y pentref. Byddai datblygiad o'r fath, yn cynnig cyfleoedd i bobl leol sefydlu busnesau bychan yn yr ardal. Y tro hwn arddangoswyd syniadau Maredudd ab Iestyn, y pensaer sy'n cydweithio 芒 nhw, ynglyn 芒 sut allai adeilad yn cynnwys unedau gwaith newydd at gyfer 6 / 8 uned, edrych. Roedd ei gynlluniau yn hynod ddiddorol ac ysgogwyd sawl trafodaeth ganddynt! Pwrpas arall i'r cyfarfod oedd i weld beth oedd ymateb aelodau'r gymuned i'r syniad o Barc / Canolfan Busnes yn y pentre ac i weld faint fyddai 芒 diddordeb i sefydlu Cwmni Cymunedol yn y pentref i symud y gwaith yn ei flaen. Er mai ychydig a ddaeth i'r cyfarfod roedd ymateb pawb, gan gynnwys y nifer dda a alwodd i mewn yn ystod y dydd, yn hynod o gadarnhaol. Mae'r Cyngor Cymuned a gomisiynodd y gwaith ymchwil ar y cyd ag ecodyfi a'r WDA, yn disgwyl cael adroddiad oddi wrth Guto Bebb a Gwilym Euros o Bartneriaeth Egin erbyn canol mis Hydref. Yna bydd rhaid penderfynu a oes gwerth symud ymlaen gydag ail ran yr astudiaeth ai peidio. Bydd yr ail ran yn edrych yn fwy manwl i weld pa adeiladau / safleoedd sydd ar gael o fewn neu yng nghyffiniaur pentref, beth ydi'r tebygolrwydd o gael caniat芒d cynllunio ar gyfer cynllun o'r fath a pha arian y gellid ei ddenu er mwyn symud ymlaen ymhellach. Cewch y newyddion diweddaraf yn rhifyn nesaf Papur Pawb. Yn y cyfamser os oes rhywun am drafod y syniad ymhellach gallwch gysylltu ag Ellen ap Gwynn ar 832551.
|