Didddorol a bywiog iawn oedd cyfraniad Gwilym Jenkins i'r rhaglen Taro'r Post yn ystod mis Chwefror.
Roedd yn mynegi gofid gwirioneddol fod adar megis y grugiar, cornicyll y waun, y gylfinir, petris a ffesantod gwyllt wedi diflannu o'r tir yn ucheldir Gogledd Ceredigion, ac fod perygl mawr i ni golli'r ehedydd yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf.
Beio'r mochyn dear a wnai Gwilym gan esbonio fod y dirywiad wedi dechrau ar yr union adeg y daeth deddf gwarchod y mochyn maear i rym ddeng mlynedd ar hugain yn 么l. Mae'r mochyn daear wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a nhw meddai Gwilym sy'n difetha nythod ac yn bwyta wyau yr adar sy'n nythu ar y ddaear.
Cododd hyn ddadl 芒nifer o naturiaethwyr yn fyw ar y rhaglen, ac er iddo gael mwy o gefnogaeth nag o feirniadaeth gan y cyhoedd, nid oedd Mel ab Owain o Ymddiriedolaeth Gwarchod Adar Prydain yn cytuno ag ef.
Mynnai Mel ab Owain fel arall, gan feio cynnydd yn y nifer o ddefaid - hyd at dair gwaith - a newidiadau mewn dulliau o ffermio, yn dilyn newidiadau yn y system grantiau. Effaith hyn yw bod y tir yn cael ei bori'n drymach, gan adael llai o lefydd diogel i'r adar yma i nythu.
Ond dadleuai Gwilym nad oes dim newid sylfaenol wedi digwydd yn nulliau ffermio ar ochrau Pumlumon.
Roedd hefyd yn bryderus am y cynydd yn niferoedd yr adar ysglyfaethus, sydd hefyd yn cael eu hamddiffyn. Mae gweld y Barcud Coch yn hofran uwch ein pennau yn olygfa gyffredin bellach. Onid peth gwael yw i ni eu bwydo gan fod yr adar hyn yn cynyddu'n ormodol?
Mwy o ffermio cymysg yw'r ateb meddai Gwilym, a llai o stoc ar y mynyddoedd a pheidio bwydo'r Barcud. Os na fyddwn ni'n ofalus bydd y llygod, y sgwarnogod a'r draenogod hefyd yn diflannu, ac mae angen gwarchod yr adar gwannaf nid bwydo'r adar mawr ysglafaethus, and yn fwy na dim gocheler y mochyn daear.
|