Yr ydym yn ffodus fod gennym gymaint o dalentau ifainc mewn sawl maes yn ardal Papur Pawb, ac un o'r rheini yw Sam, mab Lyn a Mark Ebenezer o Faesyfelin Tal-y-bont. Dewiswyd Sam o blith nifer o actorion ifainc i chwarae rhan y prif gymeriad yn Sioe Haf Theatr y Celfyddydau Aberystwyth eleni, Oliver! Richard Cheshire yw'r cynhyrchydd, a bydd y cast yn cynnwys nifer o actorion a chantorion sydd wedi her arfer 芒 gweithio yn y West End. Yr enwocaf ohonynt yw Peter Karrie a fydd yn chwarae rhan y cymeriad Fagin. Bu gohebydd Papur Pawb yn holi Sam yn ei gartref ddydd Sul cyntaf mis Mehefin ar 么l iddo fod mewn ymarfer. Bydd yn un o'r tri actor ifanc a fydd yn dysgu rhannau Oliver ar gyfer y sioe. Mae angen tri actor rhag ofn i un fynd yn s芒l i ddechrau, a hefyd fel bod y tri yn cael seibiant yn eu tro rhwng perfformiadau. Mae'r ymarferiadau eisoes wedi cychwyn ac mae Sam yn gorfod dawnsio yn ogystal 芒 chanu ac actio. Y canu a'r actio y mae'n ei fwynhau orau, ac ar ei ffordd i'r ymarferion mae'n gwrando ar rai o'r caneuon ar d芒p yn y car er mwyn cynhesu ei lais. Er ei fod wedi gweld sawl sioe gerdd yn y gorffennol - ei ffefryn oedd 'Babes in the Wood'- hon yw'r sioe gyntaf erioed iddo gael rhan ynddi. Mae'n mwynhau'r profiad yn fawr iawn. "Dwi'n nabod pawb o'r plant sy'n actio yn y sioe, ac r'yn ni'n mwynhau'r ymarferion yn fawr am ein bod ni'n cael lot fawr o hwyl", meddai Sam. Mae'n cyfaddef nad yw wedi dysgu ei linellau i gyd eto, ond am bythefnos cyfan cyn y perfformiad cyntaf bydd y cast yn gorfod ymarfer bob dydd. Yr ydym yn dymuno'n dda i Sam yn y sioe, ac mae'n si诺r y bydd llawer o ddarllenwyr Papur Pawb am gael prynu tocynnau mewn da bryd. Bydd y sioe'n cael ei pherfformio rhwng dydd Mawrth, 26 Gorffennaf, a dydd Sadwrn, 27 Awst. Gellir archebu tocynnau drwy ffonio Canolfan y Celfyddydau (01970) 62 32 32.
|