Aeth gohebydd a ffotograffydd prysur Papur Pawb ar ymweliad brys i gael stori'n llawn - a chawsant gryn ddychryn gan gredu bod lleidr pen ffordd yn mynd i ymosod arnynt! Ond roedd eu hofnau'n ddi-sail, cawsant groeso cynnes gan Catherine Jones ei g诺r Gary, a Leslie a Beth, y ddwy gynorthwywraig - a Bourbon y ceffyl! Tywyswyd ein staff o amgylch y siop gan Catherine. "Rydyn ni wedi ehangu'r adran i anifeiliaid. Ar wah芒n i'r Farmers' Coop yn y dre, does yna unman yn yr ardal yn gwerthu'r math yma o beth, a does dim dewis helaeth iawn yno. Felly dyn ni ddim yn cystadlu 芒 neb lleol, dim ond 芒'r catalogau. Mae ein prisiau 'run peth 芒'r catalogau, a does dim rhaid talu am y cludiant. Mae pobl yn dod mor bell 芒 Thywyn ac Aberaeron. Cyn hir bydd gennym wefan hefyd, a gall pobl archebu ar-lein." Mae Gary a Catherine wedi bod yn rhedeg fferyllfa Borth a Thalybont ers 6 mlynedd bellach, ac maent wedi ceisio adfer y lle i'w ysblander gynt, pan oedd Dai Davies wrth y llyw. Ar 么l i Dai ymddeol, roedd y siop yn cynnig llai a llai o nwyddau a gwasanaethau, felly ein nos yw gwella'r safon eto." Llawr llawr, mae fel byd arall ers i'r seler gael ei gweddnewid - mae dewis eang o ddillad i oedolion a phlant, nid dim ond dillad marchogaeth, ond pob math o ddillad cynnes ac ymarferol. Mae yna stafell wisgo bwrpasol, ac wrth drio sgidiau, gallwch fwynhau paned o goffi ffilter ffres (Y Lolfa - talwch sylw!) Meddai Catherine, "Mae marchogaeth ceffylau yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ym mhob man, ac mae llefydd fel canolfannau marchogaeth Rheidol a Thaliesin wedi gweld cynnydd yn eu busnes." Mae'r siop ar agor ddydd Sadwrn nawr hefyd ar gyfer codi presgripsiwn, sy'n ddefnyddiol i'r sawl ohonom sy'n gweithio. Pob lwc i'r busnes - mae'n galondid gweld pobl yn mentro, a gobeithio y bydd yn hwb i eraill. Rhaid rhoi gair o glod iddynt am yr arddangosfa o nwyddau lliwgar y tu allan i'r siop, hefyd - atgof o'r hyn a fu, pan yr oedd y stryd fawr yn frith o siopau a bwrlwm!
|