Mewn arolwg diweddar gan Estyn, y corff sy'n arolygu ysgolion Cymru, dywedwyd bod Ysgol Gymunedol Tal-y-bont '... yn ysgol dda a nifer o nodweddion rhagorol'.
Cafodd yr ysgol, sydd i 75 o ddisgyblion, ei harolygu ym mis Mehefin. Yn yr adroddiad dywedir, "Mae hon yn ysgol hapus_a chroesawgar lie y llwyddar disgyblion i gyrraedd safonau rhagorol mewn dwyieithrwydd, eu dealltwriaeth o'r Cwricwlwm Cymreig ac yn y medrau creadigol yn arbennig."
Nodwyd bod safonau yn y gwersi'n rhagori at ystadegau Cymru gyfan a bod 84% or gwersi'n dda gyda rhai ohonynt yn dangos nodweddion rhagorol. Dyfarnwyd hefyd bod safonau cyflawniad y disgyblion yn dda neu'n rhagorol mewn 100% o'r gwersi a arolygwyd.
Gwelwyd nad oedd gwahanaiaeth yng nghyflawniad y bechgyn ar merched yn wahanol i'r patrwm cenedlaethol.
O'r pynciau a arolygwyd, roedd y safonau'n dda heb ddiffygion pwysig, gydag elfennau o gerddoriaeth a chelf yn rhagorol. Gwelwyd bod y disgyblion yn creu "... gwaith o safon arbennig i'w arddangos at furiau'r ysgol" a bod "... dealltwriaeth y disgyblion o'r technegau a lefel eu creadigrwydd yn rhagorol."
Cafwyd canmoliaeth uchel hefyd i'r gweithgareddau allgyrsiol niferus a drefnir gan yr ysgol a'u bod "... yn cynyddu dealltwriaeth y disgyblion o'u milltir sgwar du treftadaeth ddiwylliannol.
Mae datblygiad diwylliannol y disgyblion yn rhan bwysig o ethos yr ysgol ac yn cael ei feithrin yn y disgyblion drwy gydol eu hamser yn yr ysgol".
Meddai Hefin Jones, pennaeth yr ysgol, "Mae'r safonau uchel a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diwethaf yn cael eu cydnabod yn yr adroddiad, ac rwy'n arbennig o falch bod yr arolygwyr yn canmol y gofal a'r cyfleoedd cyfartal a roddir i bob disgybl." Pwysleisiodd, "Hoffwn ddiolch i bob disgybl, i'r staff, y rhieni Ilywodraethwyr a chyfeillion ysgol am eu holl waith caled hymroddiad i'r ysgol."
Roedd yna groeso hefyd i adroddiad gan Gadeirydd Llywodraethwyr, Delyth Man Dywedodd, "Rwyf yn arbennig o falch bod yr arolygwyr wedi adnabod Ysgol Tal-y-bont fel ysgol hapus iawn lle mae ymagwedd ac ymddygiad y disgyblion yn rhagorol".
Roedd hefyd yn falch bod y plant, yn yr adroddiad, yn barod iawn i ddysgu a hynny drwy weithgareddau cyffrous a bywiog a gynlluniwyd yn ofalus i gwrdd ag anghenion disgybl."