"Teitl y sloe oedd 'Tirluniau a Lluniau'r Meddwl' (Landscapes/Mandscapes) sydd yn adlewyrchu'r cysylltiad sydd rhwng gwaith y ddau artist lleol.
Wrth gyrraedd yr hen stabl croesawyd fi yn gynnes gan Roy a oedd yn arddangos at y Ilawr isaf. Mae Roy yn paentio mewn sawl dull, yn haniaethol ac argraffiadol ac mae'n hoff iawn o liwiau cynradd.
Daeth Roy i Gymru yn y nawdegau ac esboniodd, 'Dechreuais i ysgrifennu and cymerodd paeintio drosodd. Mae paentio yn rhoi canlyniadau imi ar unwaith ac rydw i'n teimlo yn rhydd i wneud yn union be' rydw i eisiau. Wi'n hoffi'r ffordd y mae pethau yn datblygu'n naturiol.'
I fyny'r grisiau oedd David yn eistedd yn ei stiwdio. Ganwyd yn Llwynypia yn y Rhondda ac fel dyn ifanc aeth dros y mor i fyw yng Nghanada am fwy na hanner can mlynedd.
Gwelais debygrwydd i eangderau Canada yn ei dirluniau mawr, golygfeydd o Dalyllyn, y Dyfi a'r Wyddfa. Eglurodd David bod awgrym o ddull swrealaidd i'w weld yn un neu ddau or paentiadau, tra bod y than fwyaf yn hollol realistig.
Hefyd roedd casgliad lluniau pensel, sydd yn portreadu lefydd fel Melin Ffwrnais neu Castell Harlech.
Dwedodd David pa mor ddiolchgar oedd e gael cyfle i ddychwelyd i Gymru ym 2005 i baeintio tirlun 'yr hen wlad'."
|