Daeth anrhydedd annisgwyl i ran Mrs Valma Jones, Wern, Tal-y-bont yn ddiweddar pan ofynnwyd iddi ddadorchuddio murlun at wal ysgol Trefeurig.
Tua dwy flynedd yn 么l daeth grwp o unigolion wedi ymddeol at ei gilydd i gymdeithasu yn Nhrefeurig a galw eu hunain yn 60+. Penderfynwyd fod angen her, a chan fod yr ysgol wedi cau ac yn ganolfan gymdeithasol yn unig bellach i'r gymuned, cafwyd syniad i greu murlun ar wal yr ysgol. Mae thema'r paneli o gwmpas y murlun wedi ei seilio at y saith pentref sydd yn nalgylch yr ysgol a map bach yn y carol yn dangos lleoliad y saith pentref.
Bu Valma Jones yn brifathrawes Ysgol Trefeurig am ddegawd rhwng 1971 a 1981, a bu ei chyfraniad yn allweddol yn sefydlu'r ganolfan yno o'r cychwyn. Yn naturiol felly fel arwydd o werthfawrogiad yr ardal gofynnwyd iddi ddadorchuddio'r murlun.
|