Oherwydd y cyfyngiadau ar symud defaid, bu raid newid lleoliad y treialon am eleni. Felly, ar wahoddiad Mr a Mrs Emyr Davies, fe'u cynhaliwyd yn Llety Ifan Hen ddydd Mercher 3 Awst.
Gosodwyd y cae bnawn Mawrth mewn haul braf, ond erbyn y treialon lleol nos Fawrth roedd wedi dechrau glawio a'r niwl yn gwneud pethau'n anodd i'r cystadleuwyr a'r beirniad.
O ganlyniad, braidd yn ofidus oedd aelodau'r pwyllgor yn gadael y cae y noson honno. Ond gwawriodd bore Mercher yn braf a dechreuodd y treialon yn fuan wedi hanner awr wedi saith. Parhaodd y tywydd yn braf drwy'r dydd ac roedd yn hanner awr wedi naw nos Fercher pan ddaeth y treialon i ben ar 么l 143 o rediadau.
Felly cafodd y beirniad, Mr Evan Hopkins o Bontrhydygroes, ddiwrnod hir iawn; roedd hi wedi nosi erbyn didoli'r canlyniadau, ac wrth olau'r garafan y'u cyhoeddwyd ac y rhannodd y llywyddion, David a Dilys Morgan, Alltgoch, y gwobrau.
Islwyn Jones, Capel Bangor gyda'i gi Nap a enillodd y cawg rhosynnau, yn rhoddedig er cof am Mr Richard Edwards, Lletyllwyd, am rediad gorau'r dydd, a'r cwpan yn rhoddedig gan y ddiweddar Mrs Iona Rowlands er cof am ei brawd, Mr Evan Hopkins, am y rhediad gorau yn y dull de Cymru.
Islwyn Jones hefyd a enillodd y dosbarth i nofis yn y dull de Cymru a'r wobr, er cof am Mrs Mary Edwards a Mr Jenkin Morris Lletyllwyd, am y rhediad gorau cyn hanner dydd - ond gyda Gael y tro yma.
Enillwyd y wobr am y rhediad gorau yn y dull cenedlaethol gan Idris Morgan, Bontnewydd gyda Ned, a'r dosbarth cyfyngedig i Geredigion a'r cwpan rhoddedig gan y diweddar Mr Ken Jones er cof am Mr D. J. Williams, Cynnullmawr, gan Martha Morgan o Dregaron gyda Becs. Enillydd y treialon lleol nos Fawrth oedd Dafydd Jenkins, Tanrallt, gyda Dulas.
Cynhaliwyd cystadlaethau cneifio yn hwyr y prynhawn gyda Dafydd Jenkins, Penpompren Uchaf yn beirniadu. Y canlyniadau oedd:
Cneifio 芒 gwellau: 1. Enoc Jenkins, Tyngraig; 2. Dafydd Jenkins, Tanrallt; 3. Ken Evans, Coedgruffydd.
Cneifio peiriant - agored: 1. Dafydd Jenkins; 2. Dilwyn Evans, Tynant; 3. Rhydian Evans, Tynant.
Cneifio peiriant - aelodau CFfI: 1. Rhydian Evans; 2. Elgan evans, Tynant.
Cneifio peiriant - aelodau CFfI dan 21 oed: 1. Elgan Evans; 2. Rhydian Evans.
Cafwyd diwrnod llwyddianus iawn yn ein lleoliad newydd, gydag un o'r niferoedd uchaf erioed o rediadau. Ymysg y cystadleuwyr roedd gwraig o'r Almaen, ac ymysg y gwylwyr roedd gwraig o'r Iseldiroedd. Mae'n amlwg fod enw da treialon Tal-y-bont wedi lledu ymhell!
Erthygl gan Ieuan Morgan