Mae'n debyg mai full speed ahead dylai'r thema fod y tro hyn oherwydd y gwrthrych yw Huw Lewis, Tre'r Ddol ac mae Huw at fin cymeryd than yn Rali Cymru.
Fe fydd Huw yn gyd-yrrwr i Gwyndaf Evans o Ddolgellau ac yn ogystal 芒 chystadlu yn Rali Cymru ma'r ddau yn gobeithio casglu mwy o bwyntiau ym mhencampwriaeth Ral茂o Prydain. Ar 么l cystadlu mewn cyfres o ral茂au dros y tymor mae Gwyndaf a Huw ar hyn o bryd ar y bedwaredd safle yn y bencampwriaeth gyda siawns dda o ennill.
Fe fydd Rali Cymru 2006 yn cael ei rhedeg dros 222 milltir gan gychwyn o Gaerdydd ar y cyntaf o Ragfyr ac yna dros y ddau ddiwrnod nesaf fe fydd y ceir yn gwibio dros 17 cymal yn Ne a Gorllewin Cymru, chwech cymal ar ffyrdd grafel y Comisiwn Coedwigaeth a dwy ar weundir ar fynydd Epynt, gyda phob cymal yn cael ei defnyddio ddwy waith. Ac yna ar ben hyn ar y dydd Sadwrn ceir cymal arbennig Caerdydd ar lawr Stadiwm y Mileniwm. Y cymal agosaf i'r ardal hon yw Trawscoed ar ddydd Sul y trydydd o Ragfyr - cymal olaf y rali fel mae'n digwydd.
Fel gyda pob camp rhaid paratoi ac yn 么l Huw mae na ddwy agwedd i hyn. I gychwyn rhaid ymarfer ar y cymalau- ma nhw eisoes wedi gyrru ar hyd bob cymal ddwy waith - dim mwy na 35 milltir yr awr - i gyfarwyddo a'r troeon a wyneb y ffordd. Er fod Gwyndaf a Huw yn 'chwarae adref' fel petai ac yn hen gyfarwydd 芒'r cymalau dyw hyn ddim yn rhoi llawer o fantais. Mae taith y rali wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen ac felly yr un mor gyfarwydd i yrwyr o Ffrainc neu Denmarc.
Wrth ymarfer mae Huw yn gwneud nodiadau manwl - pace notes - ac yn galw y rhain allan i Gwyndaf wrth iddyn nhw gystadlu. Er fod y nodiadau'n bwysig mae Huw yn sylweddoli y gallai pethau fod wedi newid cryn dipyn pan fyddan nhw ar y cymal go iawn. Mae'r tywydd yn gallu effeithio ar wyneb y ffordd ac yn naturiol wrth i un car ar 么l y llall sgrialu at draws y grafel mae'r wyneb yn torri i fyny - a'r bois mawr yn y g锚m sy'n cael y fantais o fynd gyntaf.
Yn ail, rhaid paratoi'r car. Mae'r ddau yn cystadlu mewn Mistubishi Evo - car gyriant pedair olwyn y gallech chi a fi fynd allan a phrynu, ond mae un Gwyndaf a Huw dipyn yn wahanol i'r model welech chi yn y garej. Dim ond un car arall yn y rali - Subaru - sydd 芒 gyriant pedair olwyn ac yn 么l Huw mae hyn yn gallu bod yn fantais sylweddol - yn arbennig os fydd y tywydd yn wlyb.
Cwmni o'r Trallwng sy'n paratoi'r car gan wneud rhywfaint o newidiadau i'r corff a'r peiriant. O ganlyniad mae'r car yn- gryfach ac yn medru gwrthsefyll y gyrru caled ond mae'n debyg mai'r ychwanegiad pwysicaf yw'r gell ddiogelwch - safety cage - tu mewn i'r car. Mae hyn oll yn golygu fod y car yn werth rhwng 拢80,000 a 拢90,000. At hyn fe fydd t卯m cynnal o rhyw wyth yn cynorthwyo'r ddau drwy gydol y rali - newid y teiars a trwsio fel bo'r angen. Dengys hyn oll fod cystadlu ar y lefel hyn yn fusnes drud iawn ac mae Gwyndaf a Huw yn derbyn sponsoriaeth gan gwmni Hankook - cwmni teiars o Korea. Er fod y nodded yn hanfodol mae Huw yn cyfaddef ar unwaith nad yw e'n agos at y miloedd a werir gan y timau mawr megis Ford a Citroen.
A felly, mae'r paratoi drosodd a dyna Gwyndaf a Huw ar linell gychwyn un o'r cymalau a dyna wrth gwrs y prawf go iawn. Anodd dychmygu'r profiad - ond yn eich meddwl eisteddwch am eiliad yn sedd Huw fel cyd-yrrwr. Swyddog y rali yn eich cyfri lawr 4,3,2,1 ...ac yna mewn storm o s诺n a chwmwl o grafel i fwrdd chi. Nawr, fel ymhob camp mae'n debyg, mae'r adrenalin yn llifo a does gyda chi
ddim amser i feddwl am ddim ond cynorthwyo'r gyrrwr i gadw at yr hewl. Does gyda chi ddim amser i feddwl am y coed yn melltio heibio rhyw fodfeddi i ffwrdd, does gyda chi ddim amser i feddwl am y dibyn islaw a does gyda chi ddim amser i feddwl fod y car yn troi am y chwith a llwybr y ffordd yn mynd at y dde! Hyn oll ar gyflymdra o dros gan milltir yr awr! Dyw Huw ddim yn meddw hyn oll oherwydd i fod e'n gwybod fod e yn nwylo saff a medrus a rhagoriaeth Gwyndaf yn 么l Huw yw i fod e'n yrrwr llyfn - wastad yn gosod y car ar y llinell iawn ac felly yn medru cadw at gyflymdra cyson - dyma'r ffactor uwchben pob peth arall sy'n gwneud gyrrwr da. Hefyd gan fod e'n brysur yn darllen y nodiadau does gan Huw ddim amser i sylwi rhyw lawer a cyn iddo fedru tynnu anal bron mae'r cymal drosodd.
Un peth arall dyw Huw ddim ond yn cael cip arnyn nhw yw miloedd a fydd yn mynd i wylio'r rali. Huw ddim yn gweld felly ond Gwyndaf yn gorfod gweld y cyfan ac yn aml yn dweud ar derfyn y cymal, welest ti hwnna yn sefyll yn y lle twp na? Mae na ddamweiniau wedi digwydd yn y gorffennol a dyna ym marn Huw yw un o'r prif resymau - gwylwyr yn sefyll mewn llecyn sy'n i rhoi nhw a'r cystadleuwyr mewn peryg.
Mae Huw wedi bod yn ral茂o ers 1978 ac felly wedi bod wrth y g锚m am bron deng mlynedd at hugain. A nawr, a fe wedodd hyn mae e'n dechrau teimlo ei oed ac eto fel ymhob camp, fe all fod gan gystadleuwyr ifanc rhyw fath o edge sy ddim gan y bois hyn. Ond wedyn, ar unwaith mae'n cydnabod fod ysgol brofiad yn ysgol bwysig ac bod hen law wrth y llyw, ac wrth y map yn medru dangos ambell i dric i'r lleill.
Beth bynnag ddaw i'r ddau yng nghoedwigoedd Cymru yn 2006, mae Huw yn tybio mai dyma'r tro olaf y bydd e'n cystadlu yn Rali Cymru. Ond wedyn mae e'n ychwanegu'n syth - os wna nhw ennill ei dosbarth - ac mae gyda nhw siawns dda - fe fyddan nhw'n cael mynediad rhad ac am ddim i Rali 2007.
Ar derfyn ein sgwrs, rwy'n gofyn i Huw os oedd ofn arno fe weithiau? A'r ateb profoclyd? Ti wedi gweld lliw yng ngwallt ond wyt ti! Wel, beth bynnag ddaw, gawn ni weiddi i Gwyndaf a Huw - un o dim ond chwe t卯m o Gymru - Go Gwyndaf Go! ac ar yr un llais Hwyl Huw, Hwyl!
Cafodd Gwyndaf a Huw gychwyn da iawn i'r Rali ac ar derfyn y diwrnod cyntaf roeddent yn bedwerydd yn eu dosbarth. Yna ar y cymal cyntaf ar y dydd Sadwrn yng nghoedwig Crychan, torrodd y g锚r bocs ac er fod y ddau wedi llwyddo i ail ymuno 芒'r Rali, roedd gormod o amser wedi ei golli. Fodd bynnag, roeddent yn fuddugol yn y Mitsubishi Evo Challenge ac felly yn cael cystadlu yn Rali y flwyddyn nesaf yn rhad ac am ddim. Gwell lwc yn 2007!
GIE