大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Nabod Adam Simmonds
Rhagfyr 2005
Papur Pawb yn dod i 'nabod Adam Simmonds prif gogydd Gwesty Ynyshir yn Eglwysfach ac yn dysgu llawer am ei baratoadau e ar gyfer y Nadolig.

Gyda'r Nadolig yn agosau peth naturiol yw meddwl am fwyd a pharatoi am yr 诺yl ac er y bydd llawer ohonom yn slafio wrth y stof fe fydd gwrthrych 'Adnabod' tro hyn yn brysurach na phob un o gogyddion cartref ardal Talybont.

Ei enw yw Adam Simmonds a fe yw pryf gogydd Gwesty Ynyshir yn Eglwysfach.

Mae Ynyshir wedi ennill llu o wobrau ond mae'n debyg mai'r clod uchaf oedd i'r bwyty gael ei ddyfarnu yn Hydref 2005 yn Welsh Restaurant of the Year gan y Good Food Guide. Mae hyn yn gosod Ynyshir bron at yr un lefel 芒 bwytai Gordon Ramsay a Le Manoir aux Quat'Saisons - gyda rhain ond yn cael ei graddio un marc yn uwch na Ynyshir. Mae hyn oll felly yn golygu fod Adam Simmonds yn un o gogyddion gorau Prydain, ond ble ddysgodd e ei grefft a sut mae e a'i d卯m yn paratoi am y Nadolig?

Mae Adam yn hanu o gyrion Llundain ac fe ddechreuodd ei ddiddordeb mewn coginio yn yr ysgol - o'r cychwyn cyntaf roedd e'n ymwybodol mai gweithio gyda'i ddwylo oedd e am wneud a dyma feddwl am fod yn Chef. O'r ysgol i Goleg Addysg Bellach i wneud cwrs arlwyo a dyma le dysgodd e'r 'basics.' Oddi yno i'r bwyty cyntaf a chychwyn o ddifri at feistroli'r grefft o goginio. Fel pob darpar Chef, dechrau ar y gwaelod - pilo'r tatws a glanhau llysiau ac yna yn raddol, dringo'r ysgol `fwydol.' Fe dderbyniodd Adam hyfforddiant gan y meistri mewn bwytai fel Heathcote's a L'Escargot ac yn arbennig gan yr enwog Raymond Blanc yn Le Manoir aux Quat'Saisons. Dyma'r lle a'r ffordd i ddysgu'n iawn ac mae Adam yn cydnabod fod llawer o'r gwersi wedi bod yn galed. Mae coginio ar y lefel hyn i gwsmeriaid sy'n talu'n ddrud am y pryd bwyd yn gosod pwysau mawr ar y gegin ac mae'r gwaith yn golygu oriau hir ac yn cario llawer o 'stress.'

Nifer o flynyddoedd yn 么l fe ddaeth Adam i Ynyshir am ei fod am arwain t卯m mewn gwesty bychain wedi ei leoli mewn ardal lle gellid cael a defnyddio'r cynnyrch lleol gorau. Mae Ynyshir yn rhoi pwyslais mawr ar hyn - y cig i gyd yn dod o ladd-d欧 ym Machynlleth, pysgod yn cyrraedd yn ddyddiol a dewis helaeth o gaws o Gymru. Ond wrth gwrs rhaid wedyn troi'r cynnyrch yn bryd o fwyd o'r safon uchaf a dyma le mae crefft Adam yn dod yn amlwg. Mae'n disgrifio ei goginio fel 'modern European' ac yn ffafrio arddull ysgafn - un cwrs yn cynnal ac yn gweddu i'r llall a'r cyfan yn osgoi teimlad o orfwyta ar derfyn y pryd. Dyw e ddim yn hoffi defnyddio gormodedd o hufen a sawsau cyfoethog - mae'r cwsmer nawr (yn arbennig y merched) llawer mwy ymwybodol o'r calor茂au ac am gael pryd blasus ond ysgafn.

I ddod yn fwyty gorau Cymru a rhaid bod yn anturus. A dyma, mae'n debyg, sy'n gosod chef fel Adam mewn categori gwahanol. Mae'n hoffi arbrofi gyda chyfuniad o wahanol flasau i greu saig fel 'loin' o borc gyda hufen ia winwns. Ond cyn i'r cwsmer gael y pryd rhaid gwneud yn si诺r fod y cyfan yn iawn ac mae Adam yn cael gweddill y staff a'r perchnogion i flasu'r arbrawf - a nhw wedyn yn awgrymu newidiadau - ychydig mwy o berlysiau, llai o bupur efallai. A dim ar 么l i'r saig gael ei brofi sawl gwaith mae e'n cyrraedd y fwydlen.

Does dim syndod hefyd fod Adam yn gweithio yn agos i'w rysetiau - dyw e ddim fel Jamie Oliver - llond law o hyn a llond dwrn o'r llall. Na rhaid bod yn egsagt - a'r rheswm am hyn yw bod rhaid i'r pryd weithio dro ar 么l tro - yn berffaith heno, nos yfory a drennydd. A'r math o ddewis welwch ar y fwydlen yn Ynyshir? Hyrddyn (Mullet) Coch, Melwn a Foie Gras fel cwrs cyntaf, petrys wedi'i goginio mewn whisgi Cymreig gyda chnau a madarch fel ail gwrs ac yna dewis o bwdinau neu gaws Cymreig.

Mae Adam a'i d卯m wedi cychwyn paratoi am y Nadolig rhyw dair wythnos yn 么l. Rhaid sicrhau fod y nwyddau a'r cynnyrch yn cyrraedd y gwesty mewn da bryd a chofio wrth gwrs fod y Nadolig yn gyfnod gwyliau gyda busnesau yn cau lawr. Dros yr 诺yl fe fydd y pwyslais ar y traddodiadol - twrci a phwdin Dolig a mins peis oherwydd dyna mae pobol yn disgwyl. Fe fydd y cyfan yn cael ei baratoi yn y gwesty - yr holl bwdinau a chacennau ac yn hyn o beth fydd y Nadolig yn Ynyshir ddim yn wahanol i unrhyw gyfod arall - yr holl goginio yn cael ei wneud yn y gwesty - dim saws parod a dim byd mas o becyn. Er y cynllunio blaen llaw fe fydd Adam yn y gegin ar ddydd Nadolig a dros gyfnod helaeth yr 诺yl a'r Flwyddyn Newydd. Fe fyddai'n well ganddo fod adref gyda'i deulu ond mae'n derbyn fod ei swydd yn golygu mai cegin y gwesty yw ei le dros yr 诺yl yn hytrach nag adref. Ac ar ddiwedd dydd Nadolig ei hun fydd Adam wedi blino, ond yn hapus os fydd y cwsmeriaid wedi eu plesio.

Mae Adam Simmonds yn naturiol yn falch o'r clod a'r bri sy'n dod yn sgil y gwobrwyon ond wedi cyrraedd y nod rhaid wedyn cynnal a chadw safon. Mae pob noson yr un mor bwysig 芒'r llall ac mae gweithio ar y lefel hyn rywbeth yn debyg i berfformio mewn theatr. Rhaid i bob pryd bwyd - un ar 么l y llall - fod o'r un safon ac wrth gwrs y gwobrwyon a chlod yr arweinlyfrau sy'n denu'r cwsmeriaid i Ynyshir o bedwar ban byd. Ar 么l darllen y 'guide' a theithio i ganolbarth Cymru mae disgwyliadau'r cwsmeriaid yn uchel - ac Adam a pherchnogion y gwesty, Rob a June Reen sy'n gorfod sicrhau fod pob ymwelydd yn cael ei blesio ac yn gadael gan gofio fod aros a bwyta yn Ynyshir wedi bod yn brofiad bythgofiadwy.

Ac Adam ei hun - oes gyda fe un tip i chi a fi wrth i ni baratoi ein cinio 'Dolig? Ei awgrym yw torri'r ddwy goes oddi ar y twrci a'i goginio ar wah芒n - wedyn fe fydd yr aderyn yn blasu'n well a ddim yn sychu allan wrth goginio. Tip felly oddi wrth y meistr, ond efallai y dylech chi feddwl eilwaith cyn arbrofi gyda'r hufen i芒 winwns!

Erthygl gan GIE


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy