Cynhelir y daith Ddydd Sadwrn 14 Mehefin ac estynnir croeso cynnes i unrhyw un ymuno 芒 hi. Gan ei bod yn daith o dros 10 milltir o hyd, fe drefnir bod modd i chwi ymuno neu ymadael 芒'r daith fel y dymunwch gan y trefnir trafnidiaeth i gludo pobl yn 么l ac ymlaen at bob Capel yn ei dro. Am 9.15 y bore bydd pawb sydd am ymuno 芒 dechrau'r daith yn dal bws mini o'r Patshyn Glas at safle Capel Tabor ar bwys Nant y Moch. Er bod y capel ei hun bellach wedi ei chwalu, mae cofeb i'w gweld ar y safle sy'n dynodi un o gapeli mwyaf anghysbell Cymru yn ei ddydd. Serch hynny, fe gafodd rhywrai y weledigaeth i gynnal Cymanfa Gerddorol gyntaf Annibynwyr Gogledd Ceredigion yno yn 1891. Am 10 o'r gloch fe fydd y daith gerdded yn cychwyn o Tabor a heibio Ffos Fudr cyn dilyn Lein yr Hafan trwy Gwm Cyneiniog a heibio gwaith mwyn Bwlchglas i Gapel Bethesda (Cwm Ty Nant). Capel Bethesda yw'r unig un o'r pum adeilad y byddwn yn eu gweld yn ystod y dydd sy'n parhau ar agor hyd heddiw dros 150 o flynyddoedd ar 么l codi'r adeilad gwreiddiol yn 1837 a'i adnewyddu yn y 1880au cynnar. Er mai'r dyma'r darn hiraf o'r daith (tua 5 milltir) mae;r cerdded yn weddol hawdd a gobeithir cyrraedd yno oddeutu 12.30. Ar 么l seibiant i fwynhau picnic, bydd y daith yn ail-gychwyn am un o'r gloch yn brydlon trwy ddringo dros Fanc y Winllan o Gwm Ty Nant i Gwm Ceulan er mwyn taro heibio i un arall o gapeli'r fro, sef Capel Seion, sydd bellach yn dy annedd. Er bod y rhan hon o'r daith yn weddol fyr (rhyw ddwy filltir a hanner) bydd rhaid cymryd pwyll wrth ddringo dros y llechwed o gwm i gwm. Wedi egwyl haeddiannol ger Capel Seion i ryfeddu at y ffaith i'r tri chapel yr ymwelwyd 芒 hwy yn ystod rhan gynta'r daith (sef Tabor, Bethesda a Seion) lwyddo i gynnal gweinidog o 1872 hyd at y 1930au, ni fydd hi'n talu i oedi'n hir gan fod taith o rhyw ddwy filltir a hanner o'n blaenau i gyrraedd y pedwerydd capel. Bydd y rhan hon o'r daith yn dilyn ffordd Cwm Ceulan i Glanrafon cyn dringo allan o'r cwm i gyfeiriad Cwm Cletter, gan basio heibio Bedd Taliesin a chyrraedd Capel Soar, Pensarn. Agorwyd y capel hwn yn 1868 a deng mlynedd yn ddiweddarach fe gorfforwyd eglwys yno fel cangen o Fethel ond mae'r capel hwn hefyd wedi hen gau ey ddrysau. Oddi yno bydd cymal ola'r daith (rhyw dair milltir o gerdded hamddenol) yn mynd 芒 ni heibio Gwarcwm Isaf a Choed Tafarn-fach a Choed Tafarn-fach cyn ymuno 芒'r ffordd gefn o Daliesin i Bentre-bach gan gwblhau'r daith ger safle Capel Bethania (Penlefel) yn Henllys. Capel oedd hwn a godwyd fel changen a hynny yn 1867. Gall y rhai meyaf ffit gerdded ar hyd y ffordd gefn yn ol i bentref Tal-y-Bont tra bydd y gweddill ohonom yn fwy na diolchgar bod bws mini ar gael i'n cludo y filltir olaf!
|