Erbyn hyn yr oedd y c么r yn un o fudiadau sefydlog yng ngweithgarwch y pentref ac yn adnabyddus drwy ardal gyfan. Cynhaliwyd cyngherddau ar hyd a lled Cymru ond yn enwedig yn y canolbarth, ac mae nifer o stor茂au difyr sydd wedi dod yn chwedl erbyn hyn yn hanes y c么r. Sefydlwyd y c么r i ddechrau yn yr wythdegau gan Eleri Huws ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Yr oedd Eleri yn ddeheulaw ar y piano a'r delyn ac yn arbennig am osodiadau Cerdd Dant ac wedi hyfforddi nifer o bart茂on yn ei thymor fel athrawes yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth. Merched Tal-y-bont oedd mwyafrif yr aelodau y pryd hynny, ac mae nifer ohonom yn dal i gofio'r rhagbrofion a gynhaliwyd yn Ninas Mawddwy yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol - ein cystadleuaeth gyntaf. C么r Cerdd Dant oeddem yn bennaf ac yr oedd yn hyfryd cael dysgu cerddi Cymraeg traddodiadol a modern ar ein cof. Cynhaliwyd nifer o gyngherddau gan ychwanegu caneuon gwerin a chlasurol i'r repertoire. Aethom i gystadlu llawer wedi hynny, mewn gwyl ac eisteddfod ar hyd a lled Cymru. Ar ddiwedd y nawdegau, cymerwyd yr awenau gan Eirwen Hughes, Pencwm, Penrhyn-coch. Yr oedd yr enillydd ar gystadleuaeth y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn adnabyddus fel unawdydd ac am arwain cymanfaoedd heb s么n am gyfeilio i unawdwyr eraill. Ymunodd nifer o aelodau newydd yn ystod y cyfnod ac erbyn y diwedd yr oedd cynrychiolaeth aelodau o ardal eang. Nid oedd y c么r yn cystadlu erbyn hyn ond yn hytrach yn cynnal cyngherddau. Daeth cyngerdd Gwyl Ddewi yn y Marine er budd rhyw achos da yn achlysur blynyddol a phwy na all gofio'r chwerthin afreolus ar j么cs Dai Jones Llanilar a'r artistiaid adnabyddus a fu'n perfformio ynddynt. Yn anffodus, mae pob peth da yn 么l y gair yn gorfod dod i ben, a chynhaliwyd cyfarfod ffarwel yn 'Y Barn', Clarach ar Hydref 10, 2003, dros bwffe blasus. Er tristed yr achlysur, mawr oedd y chwerthin wrth gofio aml i dro trwstan wrth geisio ffeindio ffordd i gyngerdd mewn lle anghysbell neu ar bethau doniol a ddigwyddodd wrth i ni i gyd gwrdd. Talwyd teyrnged i Eirwen gan Ellen ap Gwynn gan ddiolch iddi am ei gwaith a'i hyfforddiant yn ystod ei hamser fel arweinydd a chyflwynwyd siec iddi fel arwydd o'r diolch hwnnw. Diana Jones
|