大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Sue a Bob Williams Sioe Talybont trwy lygaid y Llywyddion
Medi 2007
Bob a Sue Williams, Llywyddion Sioe Talybont 2007 yn edrych yn 么l ar ddiwrnod i'w gofio.

Gan na fum innau at bwyllgor Sioe Talybont ers rhai blynyddoedd bellach, teimlais mai haws oedd rhoi fy argraffiadau o weithgareddau'r dydd heb fod yn rhagfarnllyd.

Yn sg卯l clwy'r Traed a'r Genau hawdd fyddai i'r pwyllgor fod wedi cymryd camau i beidio a chynnal sioe eleni fel y gwnaeth amryw eraill, ond nid felly y bu. Y penderfyniad oedd cario ymlaen a diolch iddynt am hwnnw.

Dim gwartheg, dim defaid a dim geifr ond eto Cae y Llew Du yn llond o bob math o ddiddanwch at gyfer pawb. Roedd y dorf yn lluosog a'r pres at y giat i fyny yn sylweddol ers llynedd, y tywydd yn rhannol gyfrifol am hyn mae'n si诺r.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a roddodd o'u hadnoddau a'u hamser i sicrhau llwyddiant y sioe. Wn i ddim sawl person a ddywedodd wrthyf yn ystod y dydd eu bod yn hoffi dod i Sioe Talybont oherwydd y croeso a gafwyd yno ac mae hyn yn dweud y cyfan am y pwyllgor ac ymroddiad diflino ei haelodau.

Hoffwn innau ar ran y ddau ohonom ddiolch am yr anrhydedd o gael bod yn llywyddion. Cawsom ddiwrnod dedwydd, difyr a chofiadwy iawn, y swyddogion yn edrych ar ein holau fel brenhinoedd, `VIP' treatment' o'r radd flaenaf.

Yn ystod 2006-7, bum yn llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon ac yn sgil y swydd honno bu'n rhaid i mi fynychu tua deunaw o sioeau ledled Cymru a Lloegr hefyd. Credwch fi, mae Sioe Talybont cystal os nad gwell na llawer ohonynt, mae graen ac 么l gwaith ar bob rhan o'r cae.

Llongyfarchiadau mawr a hir oes i Sioe Talybont.

Bob a Sue Williams

Mae canlyniadau'r Sioe yn rhifyn Medi 2007 o Papur Pawb.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy