Wedi siom peidio medru cynnal sioe yn 2008 a sioe heb wartheg, defaid na geifr yn 2007, braf oedd gweld cynnal sioe lawn a llwyddiannus eleni a hynny ar ddiwrnod sych yng nghanol haf gwlyb arall!
Bu cynnydd eleni eto yn arian y gatiau a thorf niferus a theilwng wedi dod i fwynhau'r amrywiaeth eang o stondinau a chystadlaethau a drefnwyd unwaith yn rhagor ar Gaeau'r Llew Du.
Cafwyd sioe werth chweil gyda safon uchel yn y Babell Fawr a'r anifeiliaid a'r amryfal weithgareddau yn sicrhau fod rhywbeth yno i ddiddori teulu cyfan o bob oed.
Y Llywyddion am eleni oedd Dr a Mrs Gareth Hughes, Coetmor, Tal-y-bont, dau a fu'n gefnogol iawn i'r sioe ac yn gystadleuwyr brwd at hyd y blynyddoedd. Braf oedd eu gweld yn mwynhau'r gweithgareddau ac yn cyflwyno cwpanau i'r enillwyr ar ddiwedd y prynhawn.
Mae Sioe Tal-y-bont heb amheuaeth ymhlith y goreuon o sioeau undydd Cymru ac mae'r diolch am hynny i ymroddiad a gwaith caled y swyddogion, y Cadeirydd Evan Jenkins, Carregcadwgan ac aelodau'r pwyllgor, y gwirfoddolwyr ar cefnogwyr fel ei gilydd.
Llongyfarchiadau i bawb a roddodd o'u hadnoddau a u hamser i sicrhau llwyddiant y diwrnod ac edrychwn ymlaen yn fawr at sioe arall lwyddiannus yn 2010.
|