Er nad oedd ond ychydig amser ers i griw mawr ddod at ei gilydd yn y Neuadd Goffa i fwynhau te prynhawn a chodi swm teilwng iawn o arian at Apel Haiti, roedd Eglwys Bethel yn ffyddiog y byddai'r pentrefwyr yn fwy na bodlon cefnogi digwyddiad arall i gefnogi'r un achos gyda'r bwriad o geisio lleddfu rhywfaint at y dioddefaint.
Felly, at fore Sadwrn, 6 Mawrth, trefnwyd fore coffi, raffl a stondinau amrywiol, ac unwaith eto hyfryd oedd gweld pobl a phlant o bob oed yn tyrru i'r Neuadd Goffa i fwynhau'r gwmniaeth, i brynu pob math o nwyddau, i geisio ennill un o'r llwythi o wobrau raffl ac, yn bwysicach na dim, i gefnogi'r achos.
Rhoddwyd croeso twymgalon i ymwelydd arbennig ac annisgwyl, sef Sali Mali, a chafodd y plant gyfle i fwynhau ei chwmni hi a rhai o s锚r S4C a fu'n eu diddanu a thriciau syrcas, yn ogystal a rhoi cyngor i unrhyw un a ddymunai hynny at y newid i wasanaeth teledu digidol.
Yn glo hyfryd at y bore cafwyd eitemau amrywiol wedi eu cyflwyno'n raenus gan rai o blant yr Ysgol Sul dan ofal Falyri Jenkins.
Hoffai'r Eglwys ddiolch o galon i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at lwyddiant yr achlysur, ac i'r criw lluosog o bob oed a ddaeth i gefnogi.
Codwyd 拢1,000 yn y bore coffi, yn ychwanegol at y cyfraniad o 拢200 oddi wrth yr Eglwys ei hun, a 拢150 oddi wrth yr Ysgol Sul, a anfonwyd pan dorrodd y newyddion am y drychineb gyntaf ddechrau mis Ionawr.
Gyda chefnogaeth pentref Tal-y-bont , felly, mae Eglwys Bethel wedi trosglwyddo cyfanswm o 拢1,350 i Ap锚l Haiti - camp aruthrol yn wir.
|