大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Papur Pawb
Tractor a threilar yn cau rhiw Penrhiw Hwyl ac Anhrefn
Mawrth 2004
Bydd wythnos olaf mis Chwefror eleni'n aros yn y cof am flynyddoedd lawer i ddod, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc y fro.

Roedd wythnos hanner tymor yn nhrydedd wythnos Chwefror ymhlith y twymaf o fewn cof ac arwyddion pendant i'w gweld ymhobman ein bod ar drothwy gwanwyn cynnar fel y llynedd (er mae'n wir dweud bod ambell hynafgwr yn ein rhybuddio'n flynyddol na ellir mentro dweud bod y gaeaf drosodd tan Galan Mai!). Ond yna o fewn llai na diwrnod a hanner i'r plant ddychwelyd i'r ysgol ar 么l y gwyliau hanner tymor hiraf mewn hanes fe'u hanfonwyd adref eto pan ddechreuodd fwrw eira'n drwm fore lau 26 Chwefror. O fewn ychydig oriau roedd tua 6 modfedd o eira ar lawr, ac am ychydig oriau roedd anhrefn ar brif ffyrdd yr ardal cyn weithwyr y Cyngor allu clirio'r gwaethaf. Ond bu rhai o'r ffyrdd llai dan eira a rhew am ddyddiau.

Erbyn canol pnawn lau fe giliodd y storm a gwenodd yr haul ac felly y bu am y tridiau, gyda'r ardal i gyd yn bictiwr i'r llygaid. Yn naturiol, roedd y plant mawr a bach wrth eu bodd yn manteisio ar y cyfle prin a gawn yn yr ardal hon i wneud dyn eira, taflu peli eira a sledio, yn hytrach na bod wrth eu desgiau yn yr ysgol. Yn Nhaliesin bu plant y pentref (gyda chymorth ambell oedolyn oedd yn mwynhau ail-fyw eu plentyndod) wrthi'n ddiwyd yn codi iglw anferth a lluniwyd sawl cawr eira gan blant Tal-y-bont.

Er bod yr eira wedi cyrraedd ar ganol y tymor wynau, ac nad oedd yr eira yn hwyl i'r ffermwyr, ni chlywsom am golledion, a hynny mae'n si诺r am na chafwyd gwynt cryf i greu lluwchfeydd hyd yn oed yn yr ucheldiroedd. Ni chawsom adroddiadau chwaith am ddamweiniau, ond fe gafodd un neu ddau ddihangfa ffodus pan lithrodd tractor a threlar ar draws y ffordd fawr ar ganol rhiw Penrhiw ychydig ar 么l 8 o'r gloch fore lau. Bu 'n rhaid gohirio ambell ddigwyddiad, gan gynnwys Eisteddfod Ysgol Tal-y-bont, yn sgil yr eira.

Mae'n braf ambell dro cael cyfle i brofi bywyd pentrefol fel yr oedd erstalwm, gyda phawb yn mwynhau diwrnod neu ddau i ymlacio a chymysgu a chymdogion a ffrindiau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy