Dim ond ers bron i chwe mis rydw i yma yn y Gaiman, Patagonia, ond rwyf eisoes wedi cael profiadau bythgofiadwy y bydd rhai yn lwcus i'w cael mewn oes. Wn i ddim ble i ddechrau sôn am y cyfan. Gallwn sôn am y croeso arbennig a gefais, am ddathliadau Gwyl y Glaniad, am deithiau o gwmpas yr Ariannin dros wyliau'r gaeaf. Gallwn hefyd sôn am y cymeriadau difyr sydd yma, a'r gymuned gynnes a chlos sy'n dod yn agosach at fy nghalon bob dydd. Ond deunydd llith fyddai hynny, yn hytrach na phwt o erthygl, felly fe sonia i am y datblygiad diweddaraf yn fy ngwaith am y tro. Yma i ddysgu Cymraeg ydw i, yn rhan o gynllun a drefnir gan y Cynulliad a'r Cyngor Prydeinig. Beth felly roeddwn i'n ei wneud yng ngholeg hyfforddi athrawon Saesneg Trelew (yr Instituto Patagonico del Profesorado de Ingles, neu'r IPPI) yr wythnos diwetha? Byddwch yn falch o glywed nad trwytho disgyblion yn yr iaith fain oeddwn i. Na, mae'r athrofa oleuedig hon wedi penderfynu rhoi gwersi Cymraeg i'w disgyblion. Fel rhan o'u cwrs, y mae'n rhaid i'r myfyrwyr ddysgu iaith arall trwy gyfrwng y Saesneg. Portwgeg oedd yr iaith honno tan eleni, ond penderfynodd y brifathrawes, Lorena Rees, mai da o beth fyddai dysgu iaith gwladwyr cyntaf Trelew iddynt. Fel yr awgryma ei chyfenw, mae Lorena o dras Cymreig. Nid yw hi'n siarad iaith ei chyndeidiau, ond mae hi a'i brawd Milton, sydd hefyd yn dysgu yn yr IPPI, yn falch iawn o'u gwreiddiau.
Roeddwn yn credu y byddai dysgu'r dosbarth hwn yn dasg hawdd gan y byddai'r cyfan trwy gyfrwng y Saesneg. Tra'n dysgu yn y Gaiman, rhaid i mi stryffaglu ar brydiau i esbonio'r treigladau a rhai o nodweddion rhyfedda'r iaith Gymraeg mewn Sbaeneg carbwl. Ond a dweud y gwir, nid oedd dysgu'r dosbarth hwn mor hawdd ag y dychmygais. Ychydig iawn o Saesneg yr ydw i wedi ei siarad ers dod yma ac ron in teimlo ei fod yn llifo'n rhwyddach o enau fy nisgyblion na mi.Gwahaniaeth arall rhwng y dosbarth hwn a'm dosbarthiadau i yn y Gaiman a Dolavon oedd cefndir y myfyrwyr. Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr Gaiman a Dolavon o dras Cymreig ac yn dysgu'r Gymraeg er mwyn gallu siarad â'u perthnasau, neu am eu bod eisiau teimlo cyswllt cryfach â'u gwreiddiau. Ond yn yr IPPI, dau o'r deunaw disgybl sydd â gwaed Cymreig. I un ohonynt, sy'n mynd i gael te yn aml gyda'i nain, roedd geiriau'r cartref yn hollol gyfarwydd, fel "bara menyn", "teisen" a "jam". Gwyddai'r llall gyfarchion fel "Sut 'dach chi?" a gofynnodd i mi beth oedd wedi marw yn ei olygu, gan ei bod yn gwybod llinellau cyntaf "Mochyn Du"! Maen nhw'n ddosbarth deallus a brwdfrydig, ond dim ond dwy wers y maent wedi eu cael hyd yma, felly cawn weld a fydd y brwdfrydedd yn parhau. Serch hynny, roedd sawl un yn fy holi am Eisteddfod y Bobl Ifanc a gynhelir yn y Gaiman fis Medi. Gobeithiaf y dônt i gael blas ar ddiwylliant Cymreig (ag iddo flas Archentaidd cryf) sydd yn fyw ac yn iach yn Nyffryn Camwy. Eiry Miles
|