Yn oriau mân bore Llun Mai 12 bu farw Edi Dorian Jones yn Nhrelew, talaith Chubut, Patagonia, wedi cystudd anarferol o hir a phoenus.
Er nad yw ei enw'n adnabyddus yn y wlad hon y tu hwnt i gylch cymharol gyfyng, roedd ei gynnyrch fel ffotograffydd wedi derbyn clod pawb a gafodd y cyfle i'w weld a'i werthfawrogi.
Teithio Cyflogwyd ef tan ei ymddeoliad cynnar gan y sefydliad a oruchwyliai afonydd Chubut a ffosydd dyrfhau Dyffryn Camwy. Yn rhinwedd ei swydd, teithiodd ledled y dalaith eang, yn cario'i gámara i bob cwr ohoni.
Dechreuodd ei yrfa fel ffotograffydd proffesiynol pan gyflogwyd ef ar gytundeb rhan amser gan Jornada, newyddiadur bywiocaf y dalaith ar y pryd ac yn y swydd honno cofnododd yn bennaf achlysuron swyddogol a digwyddiadau annisgwyl y dydd.
Efallai mai'r cyfnod hwn a wnaeth iddo deimlo'n hapusach yn gweithio mewn du a gwyn.
Gydag amser, ychwanegodd bortreadau o gymeriadau yn ogystal â golygfeydd, gan ffurfio archif werthfawr iawn y dylid ar bob cyfrif ymdrechu i'w diogelu.
Cynhaliodd arddangosfeydd nifeurs, gan boblogeiddio'i enw ledled ei fro a thu hwnt. Gwelwyd yn fuan bod yna ddawn arbennig yn perthyn iddo a denwyd cylch bychan o'i edmygwyr i brynu ei luniau - cylch a ehangodd yn gyflym.
Yn anochel, ac yn gynyddol, dangosodd cwsmeiriaid barodrwydd i dalu pris uwch na'r cyffredin am ei waith ac ehangwyd ei apêl.
Dangos parch Yn ogystal, dangosodd Edi lawer o barch tuag at waith nifer o'i ragflaenwyr. Pan benderfynodd perchnogion newydd Jornada gael gwared â llawer o ddeunydd o'u harchifau, trosglwyddwyd i'w ofal gasgliad ffotograffydd cynta'r Wladfa, yr arloeswr a'r masnachwr llwyddiannus John Murray Thomas.
Llwyddodd i adfer sawl llun oedd wedi dioddef oherwydd traul amser a diffyg gofal. Mae hwn yn gasgliad gwirioneddol werthfawr ac, er bod rhai o'r lluniau wedi ymddangos erbyn hyn mewn cyhoeddiadau megis Una Frontera Lejana, ni welodd y mwyafrif ohonynt olau dydd hyd yn hyn.
Tasg bleserus i rywun yn y dyfodol (agos, gobeithir) fydd pori drwy holl gasgliadau Edi Jones, i'w diogelu a'u cyhoeddi.
Nifer o luniau Ymddangosodd ei luniau mewn nifer o lyfrau, llawlyfrau, taflenni, pamffledi a chardiau post. Yn 1999 cyhoeddodd Capillas Galesas en Chubut (Capeli Cymraeg yn Chubut), cyfrol safonol ar yr addoldai a godwyd ym mlynyddoedd cynnar y Wladfa a'r Andes.
Roedd yn ddisgynnydd i dri o arloeswyr y Mimosa, sef ei hen-hen nain, Eleanor Davies Dyffryn Dreiniog; ei mab hithau o'i phriodas gyntaf, Thomas Jones Glan Camwy; a'i wraig yntau, Sarah Jones.
Ymfudodd ei hynafiaid eraill o 1875 ymlaen. Gedy wraig (Graciela) a dau fab (Lenard ac Allan).
Roedd yn frawd i Mirna Ferreira, Pennaeth Ysgol Gerdd y Gaiman, ac yn gefnder i Edith MacDonald (Y Gaiman) ac Elvey MacDonald (Llanrhystud).
|