Ionawr 14, 2008
Teyrnged Catrin Morris
Collodd y Wladfa un o'i hanwyliaid ac un o'i chewri ym marwolaeth Clydwyn ap Aeron Jones. Roedd ei gorff yn lluddedig ac roedd hi'n amser rhoi'r gorau i frwydro yn erbyn natur.
Ond mae ei gymar, Alicia, ei frawd bach, Dewi Mefin, e'i deulu i gyd a'n cymuned fach ni yma yn Nyffryn Camwy a'r Ariannin yn gweld bwlch a cholled ar ei ôl.
Athro cerdd
Roedd yn 95 oed ac wedi treulio ei fywyd yn dysgu am ac yn addysgu am gerddoriaeth. Roedd yn aelod o Orsedd y Beirdd ers y Pumdegau pan oedd yn astudio yn Llundain ac fe safodd arholiadau'r Orsedd yr adeg honno. Bu'n dysgu yn un o ysgolion pwysicaf Buenos Aires ac mae ei drefniannau a'i gyfansoddiadau yn gyfarwydd i gorau ar hyd a lled y wlad.
Deuthum i'w adnabod fel disgybl. Daethai i'r gwersi Cymraeg bob wythnos ym Mhorth Madryn ac roedd yn ffefryn mawr gen i gan fod golau a direidi yn ei lygaid na allai dim ei guddio. Cofiwch chi, roedden ni'n anghytuno'n llwyr ar un peth sylfaenol iawn - dywedai Clydwyn nad oedd y Gymraeg yn iaith caru ac mai Sbaeneg oedd fwyaf naturiol i weithgareddau carwriaethol a minnau'n trio ei berswadio ei bod hi'n bosibl gwneud "Popeth yn Gymraeg"!
Roedd hi'n fraint ei adnabod ac yr oedd yn eironig mai fi oedd yn ei ddysgu ef gan fod ei Gymraeg yn esiampl inni i gyd.
Neilltuol Pan glywaf y gair 'neilltuol' byddaf bob amser yn meddwl am Clydwyn gan mai ef a glywais yn defnyddio'r gair hwn am y tro cyntaf. Nid oedd dim byd yn 'arbennig' nac yn 'allan o'r cyffredin' iddo ef, ond "yn neilltuol"!
Ac felly ef ei hun.
Tra yn ei wythdegau nid oedd yn arwain côr ei hun er iddo fod yn arwain côr unedig Chubut ar un adeg ond fe roddai help llaw i gorau'r ardal er mwyn rhoi ychydig o sglein i'w mynegiant cyn cyngherddau pwysig neu'r Eisteddfod. Roedd llawer o'r arweinyddion yn dibynnu arno am hyn - arno ef ac ar Alicia, ei wraig, gan eu bod yn gerddorion heb eu hail ac yn bobl roedd pawb yn eu parchu.
Ac os meddyliwch amdanom ni'r Cymry a chythraul y canu roedd hyn yn neilltuol tu hwnt.
Tan y diwedd Cyfansoddai tan yn ddiweddar. Gwn ei fod wrthi'n cyfansoddi darn i delyn ond nis gwn os orffennodd y gwaith. Roedd am gadw ei feddwl yn heini ac am ddysgu cymaint ag y medrai.
Bu'n briod ddwywaith. Yn gyntaf ag un o drigolion y gymdeithas Gymraeg yn Nyffryn Camwy ond rhoddodd y gorau i'r briodas er mwyn ffurfio perthynas gydag Alicia, ei ddisgybl 30 mlynedd yn iau nag ef, ac fe barhaodd y berthynas honno dros ddeugain mlynedd.
Ysgrifennodd lyfr ar hanes y delyn a chefais y fraint o gydweithio gydag ef ar lansiad y llyfr ac roedd bob amser yn bleser gweithio gydag ef gan ei fod yn gwerthfawrogi popeth ac roedd yn ddiolchgar am bob ymdrech a wnaech drosto.
Ailsefydlu'r Orsedd Ef oedd y prif symbylydd, ynghyd a'i frawd Dewi Mefin, y tu ôl i ailsefydlu Gorsedd y Wladfa, Patagonia, a denu'r Archdderwydd Meirion a 90 o Gymry gydag ef i'r seremoni ailsefydlu yma yn y Gaiman fis Hydref 2001.
Ef oedd y Llywydd Anrhydeddus ac roedd yn bresennol ym mhob cyfarfod o'r Orsedd tan yn ddiweddar. Âi hefyd i bob cyngerdd yn Nhrelew, y Gaiman a Phorth Madryn. Doedd hi ddim o bwys os mai cerddorfa o blant, opera o Buenos Aires ynteu Eisteddfod y Wladfa oedd yr achlysur yr oedd ef yn sicr o fod yno gydag Alicia yn cefnogi ac yn mwynhau.
Bydd colled fawr ar ei ôl, i Alicia a'i deulu'n bennaf ond i ni gyd a gafodd y fraint o adnabod Clydwyn ac o brofi ei gwmni a gwres ei bersonoliaeth.
Catrin Morris
|