3 a 4 Tachwedd 2007 Mónica Jones a enillodd gadair Eisteddfod Y Wladfa eleni.
Dyma'r ail dro iddi gael ei chadeirio.
Wedi ei geni a'i magu ym Mhatagonia mae Mónica yn briod â Gwyn Jones sydd wedi symud o Gymru i fyw yn Y Wladfa.
Cân actol Yn ôl yr adroddiadau bu'r Eisteddfod flynyddol sy'n cael ei chynnal yn Nhrelew yn un llwyddiannus iawn ac ymhlith y cystadlaethau a aeth a bryd y gynulleidfa yr oedd cystadleuaeth cân actol gyda'r Gaiman yn cyflwyno Tôn y Melinydd mewn gwisgoedd da iawn i gynrychioli gwartheg, defaid, cwpwrdd, mochyn tew ac ati.
Ysgrifennodd Criw Trelew eiriau gwreiddiol yn sôn am y berthynas rhwng Cymru a Phatagonia gan gyfeirio at briodasau diweddar; Dewi Wyn a Liliana, Catrin a Milton, Tito ac Ann Marie er enghraifft.
Yn y gân darluniwyd teulu o Gymru yn dod i'r Wladfa i chwilio am gariadon i'w mab a'u merch ac athrawesau Ysgol Yr Hendre, Trelew, yn paredio o flaen y bachgen i'w ddenu ac amryw o ddynion am ddenu'r ferch.
Dyfarniad y beirniad oedd: 97 marc i'r Gaiman a 97 a hanner i Drelew.
Wyth ymgeisydd Ar y Sadwrn yr oedd defod y Cadeirio gyda Mónica Jones a fu'n byw yn y Gaiman ac yng Nghymru ond sy'n awr yn byw yn Esquel yn fuddugol gyda'i cherdd Alawon y Gwynt allan o wyth o ymgeiswyr.
Nid oedd teilyngdod yn nghystadleuaeth y Goron.
Yn ystod yr un eisteddiad trosglwyddodd Elvey Macdonald dystysgrifau i rai a fu'n fuddugol yng nghystadleuaeth Y Wladfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru.
Anrhydeddwyd Cymdeithas Cymru- Ariannin hefyd gyda'i chadeirydd, Gruff Roberts yn cadeirio'r cwrdd pnawn.
Cystadlaethau llewyrchus oedd un y côr teulu a'r gystadleuaeth emyn hunan ddewisiad efo Billy, Marcelo G., Roberto Jones ac Andrés Evans yn cystadlu gyda Roberto yn fuddugol yn canu Finlandia "yn effeithiol a chynnil".
Fel pob eisteddfod dda yn Y Wladfa yr oedd yn hwyr y nos ar bethau'n dirwyn i ben ac yr oedd nifer o eitemau o safon uchel yn y Gymraeg yn ogystal â'r Sbaeneg.
Y corau Bu tri chôr yn cystadlu yn yr ail gystadleuaeth gorawl yn Gymraeg: 1 - Gaiman; 2 - Universitario Trelew dan arweiniad Sonia Baliente; 3 - Cordillera ( Trevelin ac Esquel) dan arweiniad Glenda Powel.
Dau gôr meibion fu'n cystadlu a'r dôn oedd Myfanwy: 1 Gaiman; 2 Madryn dan arweiniad Judith Williams.
Cymanfa Yn dilyn, yn ôl y drefn arferol, bu cymanfa ganu wych y bore Sul canlynol ym Methel, y Gaiman gyda Mari Morgan - gynt o Lanelli ond yn awr o'r Unol Daleithiau - a Gwyn Williams yn arwain.
Mae Mari Morgan yn gobeithio dod a chôr Cymraeg America i'r Ariannin y flwyddyn nesaf..
|