Mae ysgol feithrin yn y Wladfa wedi estyn croeso i ymwelwyr o Gymru alw i mewn.
Agorodd Ysgol Feithrin y Gaiman ar Fawrth 2, 2009, gyda thri dosbarth, un yn y bore a dau yn y prynhawn.
Mewn dosbarth coginio ddiwedd yr wythnos gyntaf paratowyd pysgodyn blasus dros ben.
Mae trefnwyr yr ysgol wedi diolch i Fenter Iaith Patagonia a Dyfed Siôn am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a phawb arall sy wedi helpu at yr achos.
"Croeso i bawb sy'n dod i´r Wladfa i gnocio´r drws i ymweld â ni," meddai llefarydd.
|