Mae cael cynnig swydd fel athrawes Gymraeg ym Mhatagonia yn fraint ynddi'i hun ond mae cael bod yma yn ystod dathliad canmlwyddiant Coleg Camwy, neu'r Ysgol Ganolraddol, fel y'i gelwid, yn fwy o fraint byth.
Sawl dathliad 'Rwyf wedi bod yn dyst i sawl dathliad pwysig yn hanes yr ysgol ers bod yma.
Ar Fehefin 3 cynhaliwyd y pumed ar hugain Microeisteddfod Camwy yn hen gapel Bethel yma yn y Gaiman, ble roeddwn i'n beirniadu dawnsio gwerin - braint arall yn enwedig o weld mor uchel oedd y safon.
Bu cystadlu brwd o 2.30 y prynhawn hyd 11.00 o'r gloch y nos a chefais wefr o weld cymaint o blant yn mwynhau cystadlu yn y Gymraeg a'r Sbaeneg a'r cyfan wedi ei drefnu gan y disgyblion brwdfrydig o dan arweiniad ymroddedig eu hathrawon.
Roedd hi'n braf eu gweld yn cymryd cyfrifoldeb a theimlo perchnogaeth dros drefniadau'r diwrnod.
Profiad rhyfedd oedd clywed Cân y Cadeirio yn cael ei chanu mewn Castellano a braf oedd gweld Antonella Sarteschi o'r Gaiman ac Agustín César Lostra o Drelew yn rhannu'r brif wobr lenyddol am gyfansoddi darn o farddoniaeth.
Parti ar yr iard Yna, ar Ddydd Mawrth Mehefin 20, yn dilyn 'acto' i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol y Faner, cynhaliwyd parti ar iard yr ysgol gyda phawb wedi dod â bwyd a diod ar gyfer yr achlysur a chwis hwyliog i gloi wedi ei baratoi gan yr athro Cymraeg, Gabriel Restucchia a'i wraig, Lucia.
Roedd mwynhad y plant yn dyst o awyrgylch hyfryd a chartrefol yr ysgol uwchradd hon sydd ar ben Heol Michael D Jones yn y Gaiman.
Cinio canmlwyddiant Uchafbwynt y dathlu, heb os nac oni bai, oedd y Cinio Canmlwyddiant nos Sadwrn, Mehefin 24, yn y Gimnasio Municipal gyda'r disgyblion unwaith eto yn cymryd rhan flaenllaw ar y noson trwy weini mor ddiwyd ar y byrddau a'r 500 o westeion.
Dangoswyd ffilm yn olrhain hanes yr ysgol o'i chychwyn yn 1906 hyd heddiw, wedi ei pharatoi yn grefftus gan Hector MacDonald a Mary Zampini, y ddau yn gyn-ddisgyblion yn yr ysgol.
Yn ogystal â dangos clip fideo a lluniau amrywiol roedd y ffilm hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda Luned Roberts de González a fu'n Brifathrawes yr ysgol am 39 o flynyddoedd.
Goreu arf . . . Yn wir, wrth edrych ar arwyddair uniaith Gymraeg yr ysgol, Goreu Arf Arf Dysg, anodd oedd credu fy mod i filoedd o filltiroedd i ffwrdd o Gymru yn Ne America yn dathlu pen-blwydd ysgol sydd â lle mor amlwg i'r Gymraeg ar ei chwricwlwm.
Hir oes iddi a diolch am gael bod yn dyst i'r dathlu.
Mari Phillips, athrawes Gymraeg y Gaiman a Dolavon.
|