Priodol iawn fu cynnal cyfarfod i dderbyn dros fil o lyfrau ac adnoddau addysgiadol Cymraeg gwerth bron i saith mil o bunnau yn nhref Trelew fore Sadwrn, Hydref 29 2005.
Lewis Jones Bron i ganrif yn ôl, ysgrifennodd y llenor Gwladfaol Eluned Morgan - merch yr arloeswr Lewis Jones a roddodd ei enw i'r Drelew - lythyr i Gymru yn cwyno fod "llyfrau yn llawer prinnach yma na'r llwch melyn (sef aur yr Andes)" gan erfyn ar Gymry i anfon deunydd darllen Cymraeg i'r Wladfa.
Serch bod unigolion wedi ymateb i'r cais hwnnw ar hyd y degawdau, dyma'r cyfraniad mwyaf swmpus o ddigon i ddod o'r Hen Wlad, diolch i garedigrwydd Cyngor Llyfrau Cymru, Cymdeithas Cymru-Ariannin, y Cyngor Prydeinig a'r holl weisg Cymraeg a gyfrannodd gyhoeddiadau a ddewiswyd yn benodol tuag at addysg Gymraeg y Wladfa.
Bu cyfarfod i gyflwyno'r llyfrau i'r tiwtoriaid Cymraeg i gyd-fynd ag ymweliad Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rhodri Morgan AC a'r Dr John Hughes, Llysgennad Prydain yn yr Ariannin, â'r Wladfa.
Addysg a hamdden Cefnogir Cynllun Addysg Gymraeg y Wladfa gan y Cynulliad a Chyngor Prydeinig Cymru a chyhoeddodd Rhodri Morgan AC ei bod yn fraint gan y Cynulliad i gefnogi'r fenter unigryw hon.
Mae hwn yn gyfraniad gwerthfawr iawn at addysg Gymraeg y Wladfa yn ogystal â bod yn gyfle i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg gael y cyfle i hamddena a darllen y llyfrau Cymraeg diweddaraf o Gymru.
Nawr, bydd yr adnoddau'n cael eu catalogio a'u dosbarthu o'r Ganolfan Adnoddau yn Nhrelew i'r canolfannau dysgu Cymraeg ar hyd ac ar led y Wladfa, o Ddyffryn Camwy ar draws y paith i'r Andes.
Esyllt Nest Roberts Y Gaiman, Hydref 31, 2005.
|