Bu seremoni arbennig i osod torch o flodau ar fedd y Cymro sy'n cael ei gydnabod fel "tad" y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia fel rhan o ddathliadau Gŵyl y Glaniad 2005.
Gosodwyd y dorch ar fedd Michael D Jones ym mynwent Yr Hen Gapel, Llanuwchllyn, gan Elan Jones, un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Cymru Ariannin a gor-wyres i un o'r gwladfawyr cynnar, Edwyn Roberts.
Gyda'r aelodau o Gymdeithas Cymru Ariannin a oedd wedi ymgasglu ar gyfer y seremoni, ddydd Sadwrn Gorffennaf 23, 2005, yr oedd chwech o'r saith o fyfyrwyr o Batagonia sydd ar hyn o bryd yn astudio Cymraeg yng Ngholeg Llanbedr-pont-Steffan.
"Y mae hwn yn llecyn arbennig ac yn llecyn cysegredig iawn i Wladfagarwyr," meddai'r Parchedig Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu, aelod o bwyllgor gwaith y gymdeithas a oedd yn arwain y gweithgareddau ger y bedd.
Ychwanegodd fod arwyddocâd arbennig i Ŵyl y Glaniad eleni gan ei bod yn 140 o flynyddoedd ers i'r fintai gyntaf o Gymry lanio ym Mhatagonia yn 1865.
"Yr ydym ni yn cofio y dewrder, y dycnwch a'r dyfalbarhad," meddai.
Clowyd y seremoni trwy ganu emyn a gyfansoddwyd gan Nantlais yn clodfori'r cwlwm sy'n bodoli rhwng Cymru a Phatagonia:
"Un ydynt hwy a ninnau, Un yw ein ffydd a'n hiaith, Emynau temlau'r henwlad Yw mawl addoldai'r Paith, Ond cryf yw lli estroniaid A'u tery ar bob llaw; O Arglwydd cofia'r Cymry Ym Mhatagonia draw," meddai'r ail bennill.
Yn dilyn y seremoni hon bu cyfarfod pellach y tu allan i Goleg Y Bala lle bu un o gyfarfodydd cynharaf y mudiad gwladfaol, yn Awst 1865, meddai Dafydd Tudur o Brifysgol Cymru Bangor a draddododd anerchiad byr am gyfraniad rhyfeddol Michael D Jones.
Dywedodd i Michael D Jones nid yn unig hyrwyddo'r ymgyrch wladfaol yn y wasg a thrwy gynnal cyfarfodydd ond hefyd trwy gyfraniadau ariannol sylweddol.
Michael D Jones, meddai, a roddodd y £100 a alluogodd i Lewis Jones a Love Jones Parry deithio i Ariannin i archwilio'r tir a thalodd arian sylweddol pan fu trafferthion yn Lerpwl a olygai na allai'r ymfudwyr hwylio ar yr adeg a fwriedid.
Gorfododd y gost honno iddo ail forgeisio ei dŷ fil o bunnau iddo.
Yn dilyn sgwrs Dafydd Tudur, sydd wedi gwneud gwaith ymchwil helaeth ar Michael D Jones, gorymdeithiwyd o Goleg Y Bala i Neuadd y Cyfnod gydag Azul De Pol, yn cario baner Ariannin ac Ana Clara Cantera Simms yn cario'r Ddraig Goch ar y blaen.
Yn ystod y gweithgareddau yn Neuadd y Cyfnod darllenwyd nifer o gyfarchion o'r Wladfa:
Oddi wrth Cymdeithas Dewi Sant, Trelew: Ar ran Cymdeithas Dewi Sant Trelew rydym yn dymuno pob hwyl i gyfeillion Cymdeithas Cymru Ariannin yn nathliadau Gŵyl y Glaniad yn Y Bala. Rydym ni yma hefyd yn mynd i gael amryw o weithgareddau i gofio 140 blynedd ers i'r Mimosa lanio yn y Bae Newydd. Nos Fercher y 27ain o Orffennaf; Cyngerdd Mawreddog yn Teatro Español, Trelew am naw y nos efo'r corau lleol, cwmnïau dawns werin, adroddwyr a golygfa ddramatig o'r glanio lle mae aelodau ein pwyllgor yn cymryd rhan. Dydd Iau y 28ain o Orffennaf am 10.30 Acto i gofio yr Hen Wladfawyr yn Neuadd Dewi Sant ac am 11.30 cwrdd yn Nghapel Tabernacl. Yn gywir, dros y pwyllgor, Wendell Davies,Cadeirydd a Mario Jones, Ysgrifennydd.
Cymdeithas Esquel: Cyfarchion cynnes - yn meddwl ac yn cofio amdanoch heddiw yn eich dathlu. Cyfeillion y Dosbarthiadau Cymraeg ac aelodau'r Gymdeithas yn E squel. Glades Jones de Cid
Cymdeithas Addysg a Diwylliant Y Camwy, Y Gaiman: Annwyl Gyfeillion Cymdeithas Cymru Ariannin, Rydym, fel cymdeithas, yn anfon ein cofion cynnes atoch ac yn dymuno pob hwyl ar eich dathliad yn Y Bala i gofio pen-blwydd 140 Y Wladfa ym Mhatagonia. Hir oes i'r cyfeillgarwch rhwng Cymru a Phatagonia. Yn gywir Margretta Evans de Meza Leiz, Is Gadeirydd. Lucio Daniel González Roberts, Is Ysgrifennydd.
Gorsedd Y Wladfa Annwyl Aelodau Cymdeithas Cymru Ariannin, Mae Gorsedd y Wladfa, Patagonia, yn dymuno'n dda i Gymdeithas Cymru Ariannin wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad eleni yn y Bala. Rydym yn dathlu 140 o flynyddoedd ers i'r Cymry cyntaf lanio ym Mhorth Madryn ac mae'n wyrth yn wir fod y Gymraeg dal i'w chlywed ar hyd ac ar led yr ardal. Gobeithio y gallwn barhau i hybu'r iaith a'i diwylliant gyda'n gilydd am 140 o flynyddoedd eto. Yn ddiffuant Catrin Morris de Junyent, Ysgrifennydd.
Cylch Cymraeg Trelew: Hoffem ddymuno'n dda i bob un ohonoch chi sydd gyda'ch gilydd yn dathlu Gŵyl y Glaniad eleni yng Nghymru. Drwy eich caredigrwydd chi ac eraill rydym yn Nhrelew eleni yn gobeithio gwireddu breuddwyd o sefydlu canolfan Gymraeg ac ysgol feithrin. Gobeithiwn ddilyn camau y gwladfawyr cyntaf a cheisio sicrhau parhad i'n hiaith a'n diwylliant. Pob hwyl gyda'ch dathliadau acw. Santiago Meza, Llywydd.
Yr Andes: Gŵyl y Glaniad hapus i chwi yng Nghymru. 140 mlynedd o Gymraeg dan Groes y De! Oer iawn yw ein gaeaf ni yma wrth draed yr Andes, ond cynnes iawn yw ein cyfarchion i Gymdeithas Cymru Ariannin a phawb syn dathlu'r ŵyl heddiw. Diolch yn fawr, oddi wrth bawb yn Ysgol Gymraeg Trevelin a Chymdeithas Gymraeg Cwm Hyfryd.
Dyma sut y canodd R.J.Berwyn: Wi,wi, am Ŵyl y Glaniad, mae mwyniant dros y wlad. Beth yw yr ŵyl a'r glaniad? O! dwedwch i ni Nhad.
Dydd pen-blwydd y Wladfa O! cofiwch hyn fy mhlant, Pan ddaeth y Cymry yma, A'u rhif tri hanner cant.
O ble y daethoch yma? O! dwedwch i ni Nhad, A pham y mynsoch Wladfa Yn Mhatagonia wlad?
O hen fynyddoedd Cymru, Dros foroedd llydain pell, I gadw'n hiaith i fyny, A gwneuthur cartref gwell.
Wel, caru wnawn y Wladfa, Dewisodd mam a nhad, A gwnawn eu cartref yma Yn gartref o foddhad.
A charwn iaith ein mamau, A defion pur ein tad, I ninnau anwyd yma, O! dyma n hannwyl wlad.
Hwyl fawr, Mary (Green).
Eisteddfod Y Wladfa: Annwyl Aelodau Cymdeithas Cymru Ariannin Gobeithio eich bod yn mwynhau eich dathliadau Gŵyl y Glaniad yna yng Nghymru ac y brysiwch yn ôl i Batagonia ac i Eisteddfod y Wladfa cyn bo hir. Cofion cynhesaf John Humphreys, Llywydd.
|