Bydd yr athrawon yn rhan o Gynllun Addysg Cymraeg sy'n cael ei noddi gan y Cynulliad.
"Yr ydym yn cynnig cytundebau deng mis o Mawrth 1, 2007, tan ddiwedd Rhagfyr 2007 a bydd un athro yn gweithio yn y Gaiman, un yn Nhrelew yn Nyffryn Camwy ac un yn Esquel a Threvelin yn yr Andes," meddai Linda Hall, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Prydeinig Cymru yng Nghaerdydd sydd yn gofalu am y cynllun.
Ychwanegodd y bydd y panel penodi yn chwilio am frwdfrydedd, ymroddiad, gweledigaeth a pharodrwydd i weithio'n egnïol yn y gymuned yn ogystal ag yn y dosbarth.
Cynnydd sylweddol
Mae'r cynllun hwn yn un a fu'n gyfrifol am weddnewid cyflwr y Gymraeg yn y Wladfa ym Mhatagonia gyda chynydd graddol yn nifer y dysgwyr Cymraeg yno dros y blynyddoedd diwethaf.
Ym Mawrth 2006, cam pwysig iawn ymlaen fu agor Ysgol yr Hendre yn Nhrelew lle y cynhelir dosbarthiadau meithrin yn y bore a'r prynhawn bum diwrnod o'r wythnos.
Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol yn niferoedd y rhai o dan 20 oed a fu'n dilyn cyrsiau Cymraeg.
"Yn 2005, yn y Gaiman er enghraifft roedd 82% o'r holl rai a ymrestrodd yn bobl ifanc a phlant. Yn Nhrelew roedd 39% yn perthyn i'r carfannau hynny a'r canran yn 47% yn yr Andes," meddai Linda Hall.
"O ganlyniad bydd galw ar yr athro yn y tri lle i roi cryn sylw i hybu a datblygu'r gwaith hwn ymhlith yr ifanc," ychwanegodd.
Erbyn hyn y mae nifer o rai a oedd yn ddysgwyr rai blynyddoedd yn ôl yn diwtoriaid eu hunain yn cynorthwyo'r cnewyllyn o athrawon o Gymru.
"Yn ystod 2007 byddwn yn rhoi blaenoriaeth i hyfforddi a datblygu sgiliau'r tiwtoriaid lleol hyn," meddai Linda Hall.
"Y nod ydi datblygu a chadarnhau'r strwythurau addysgol a sefydlwyd yn barod er mwyn sicrhau y bydd y ddarpariaeth yn hunangynhaliol ar derfyn cyfnod y cynllun," ychwanegodd.
Pob math o ddysgu Dywedodd fod yn rhaid i'r rhai sydd am ymgeisio am y swyddi fod yn hyddysg ym maes dysgu Cymraeg i oedolion ac addysg gynradd gyda gwybodaeth am Wlpan, Pellach uwch, gloywi iaith ac ysgrifennu.
"Bydd y rhain yn swyddi tiwtor/trefnydd/hyfforddwr gyda chryn bwyslais ar yr olaf ac yr ydym yn chwilio am unigolion sy'n barod i arolygu, arwain a chynghori'r tiwtoriaid lleol a'r pwyllgorau lleol," meddai.
"Yn bennaf yr ydym yn chwilio am unigolion sydd eu hunain yn diwtoriaid effeithiol ac a fyddai'n awyddus ac yn hyderus i drosglwyddo sgiliau ac arferion da i diwtoriaid a darpar-diwtoriaid yn Chubut," meddai.
Gweithgareddau cymdeithasol
Dywedodd y bydd yr athrawon yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chymdeithasol lleol fel drama, dawnsio gwerin, cerdd, cyd-adrodd, gweithgareddau'r capeli, cymdeithasau llenyddol, chwaraeon a chyfrannu i weithgarwch y papur lleol Cymraeg ac i raglenni radio Cymraeg.
"Byddai'r gallu i gyfathrebu yn y Sbaeneg neu'r parodrwydd i ymroi i'w dysgu yn gaffaeliad," meddai.
Mae'r cytundeb yn cynnwys:
Costau teithio o Gymru i'r Ariannin ac yna 'nôl i Gymru ar ddiwedd y cyfnod.
• Chwech wythnos o wyliau.
• Llety di-dâl wedi ei drefnu gan y cymunedau lleol.
• Lwfans misol o £500 sy'n cynnwys costau teithio lleol.
• Yswiriant meddygol.
• Lwfans adnewyddu fisa.
• Lwfans cyrraedd a dychwelyd.
"Er nad yw'r lwfans misol yn ymddangos yn llawer fe fydd, yng nghyd-destun byw yn yr Ariannin, yn gwbl ddigonol.
"Beth bynnag, yr unig gostau fydd prynu bwyd a nwyddau personol mewn gwlad lle mae costau byw dipyn yn is nag yng Nghymru," meddai Linda Hall.
Cryn lwyddiant Am y gwaith dysgu dywedodd:
"Yn Nyffryn Camwy ( Gaiman a Threlew) yn ystod y tair blynedd ddiwethaf cafwyd cryn lwyddiant ym maes cyflwyno'r Gymraeg i blant.
"Byddwn felly yn awyddus i anfon i'r Dyffryn un person â chymwysterau arbennig ym maes datblygu addysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg a'r llall â chryfderau a phrofiad helaeth ym maes dysgu oedolion.
"Yn ddelfrydol bydd y person a anfonir i'r Andes yn un a fydd yn dysgu oedolion yn bennaf ond a fydd hefyd yn gallu cyfrannu tuag at ddatblygu addysg feithrin yn y Gymraeg," meddai.
"Cyfle yw hwn i bobl egnïol, brwdfrydig sydd yn eu helfen yn ymwneud â phobl. Bydd yn gyfle i ymateb yn bersonol ac yn broffesiynol i barhad y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg yn Chubut yn arbennig ymhlith yr ieuainc.
"Cyflawnwyd gwaith canmoladwy gan yr athrawon a anfonwyd yno er 1997 a'r gobaith yw datblygu a chryfhau y gwaith hwnnw," meddai.
Y Prosiect
Er mai'r Cynulliad sy'n talu am y cynllun fe'i gweinyddir gan Gyngor Prydeinig Cymru gyda chefnogaeth Canolfan Dysgu Cymraeg, Prifysgol
Caerdydd a Chymdeithas Cymru Ariannin.
Rhaid ymgeisio am y swyddi cyn Hydref 16 trwy anfon at: Linda Hall, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cyngor Prydeinig Cymru, 28 Plas y Parc, Caerdydd CF10 3QE. Tel/Ffôn:+44 (0) 29 2039 7350.
|