Yn sydyn ac annisgwyl mewn ysbyty yn Nhrelew, Patagonia, bu farw Mair Davies, yn 74 oed, Awst 20 2009 - neu Miss Mair fel y galwai llawer hi,
Un o Bentre-cwrt, Llandysul, oedd Mair Davies yn wreiddiol ond daeth yn rhan annatod o'r Wladfa, yn 'sefydliad' i'r fath raddau na ellir dychmygu'r lle hebddi.
Aeth yno'n ferch ifanc tua deugain a phump o flynyddoedd yn ôl ac aros yno weddill ei hoes.
Nid dyna oedd y bwriad gwreiddiol. Aethai i Ariannin fel cenhades gyda'r Methodistiaid a chael ei hanfon gyntaf i Bariloche i ddysgu Sbaeneg, gan mai ymhlith y Sbaenwyr y bwriadwyd iddi weithio.
Fodd bynnag, erbyn i'w chytundeb ddod i ben roedd Mair wedi dod i adnabod Cymry'r Wladfa ac wedi penderfynu aros am ragor o amser er mwyn cynorthwyo yn y capeli Cymraeg.
Er na fu hi yn weinidog swyddogol ar y capeli hynny, rhoes ei holl egni i'w gwasanaethu gan bregethu ar y Suliau ac ymweld â'r aelodau gan ddod â chysur i lawer teulu mewn adfyd.
Gwelodd yr angen am siop fyddai'n gwerthu llyfrau Cristnogol ac agorodd un yn Nhrelew ac ymhen blynyddoedd un arall yn Comodoro.
Ond oherwydd pellter fan honno o'r Dyffryn fe'i caeodd ac agor un ym Mhorth Madryn.
Bydd bwlch ar ei hôl na ellir ei lenwi, nid yn unig o fewn y capeli Cymraeg, ond ymhlith yr holl rai oedd wedi eu swyno gan ei phersonoliaeth hawddgar a'i chymwynasgarwch diderfyn.