Mae gŵr ifanc sy'n flaenllaw iawn yn y gymdeithas Gymraeg ym Mhatagonia wedi ei ethol yn faer newydd pentref Y Gaiman.
Y mae Gabriel Restucha, sy'n siarad Cymraeg, yn athro wrth ei alwedigaeth ac yn arweinydd eisteddfodau yn ogystal â chwarae rhan flaenllaw ym mhob agwedd o fywyd Cymraeg Patagonia.
Treuliodd gyfnod yng Nghymru yn gloywi ei Gymraeg.
Cafodd ei ethol yn faer Y Gaiman mewn etholiadau ddydd Sul, 16 Medi 2007, gyda mwyafrif o 500 o bleidleisiau gan drechu'r maer blaenorol, Raul MacBurney a fu'n cynrychioli'r dref bron iawn yn ddi-dor er 1987 ar wahân i gyfnod byr rhwng 1995 a 1998.
Yr oedd Gabriel Restucha yn sefyll dros blaid leol, Todos por Gaiman - Pawb dros y Gaiman.
Wedi ei eni yn Y Gaiman mynychodd ysgol gynradd y pentref ac Ysgol Camwy cyn mynd ymlaen i astudio llenyddiaeth yn y Brifysgol yn Nhrelew.
Siarad Cymraeg
O ochor ei fam, sy'n siarad Cymraeg, mae yn disgyn o deulu 'William Jones y Gof' ac yn perthyn i Morfudd Slaymaker sy'n byw yn Llanbedr pont Steffan.
Yr oedd yn ei arddegau pan ddechreuodd
ymddiddorodd yn y Gymraeg a mynychu dosbarthiadau athrawon gwirfoddol o Gymru ac yn 1993 mynychodd ef a dau gyfaill, Santiago Daniel Escobar a Juan Carlos Davies gwrs haf Cymraeg yn Llanbedr pont Steffan dan ofal Chris Rees.
Dilynwyd hyn gan gwrs mis i baratoi tiwtoriaid Cymraeg, yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin dan nawdd Prosiect yr Iaith Gymraeg yn y Wladfa.
Yn bêl-droediwr brwd bu'n chwarae i glwb lleol yn y Gaiman am flynyddoedd.
Tra'r oedd yn dilyn ei gwrs Prifysgol yr oedd yn gweithio hefyd yn ysgol uwchradd Camwy yn y Gaiman lle cychwynnodd ddosbarthiadau Cymraeg i'r dosbarthiadau hŷn ac erbyn hyn mae pob dosbarth yn cael dwy wers Gymraeg yr wythnos dan ei ofal.
Eisteddfodau
Bu'n arweinydd poblogaidd Eisteddfod y Bobl Ifanc ac Eisteddfod Y Wladfa ers blynyddoedd ac mae'n cynnal dosbarth nos i oedolion unwaith yr wythnos.
Mae yn briod a Lucía Besada sydd hefyd wedi mynychu cwrs Cymraeg Llambed. Mae ganddynt dri o fechgyn, Marco, Nicolás a Tiago, ac un ferch, Lara.
Dywedodd Gabriel ei fod yn hoff o bysgota ac yn ystod yr haf mae ef a'r teulu yn gwersylla yn yr Andes neu ar lan y môr.
"Mae'n berson poblogaidd iawn ym mysg y bobl ifanc a'r oedolion ac mae pawb yn dymuno pob hwyl iddo yn y gwaith anodd o fod yn faer y Gaiman," meddai un o drigolion Cymraeg y Wladfa yn dilyn ei lwyddiant.
Etholiadau eraill
Mewn etholiadau eraill yn nhalaith Chubut ddydd Sul ail etholwyd Mario Das Neves yn rhaglaw a dywedodd Gabriel Restucha y bydd Todos por Gaiman yn cefnogi ei ymdrechion.
"Byddwn yn cefnogi prosiect daleithiol y rhaglaw, Das Neves. Ond heb anghofio bod llawer o waith i'w wneud yn Y Gaiman," meddai.
Yn ôl un o drigolion Y Gaiman yr oedd cymaint o lawenydd yn dilyn yr etholiad y bu'n rhaid cynnal gorymdaith y fuddugoliaeth o gwmpas yr ardal ddwywaith.
"Y mae yna frwdfrydedd mawr ac fe adleisiwyd hynny yn y bleidlais," meddai Gabriel Restucha."