Bu eisteddfod Trevelin, Cwm Hyfryd ymlaen nos Wener a dydd Sadwrn Mai 21 a 22, 2004. Eisteddfod y bobl ifanc oedd hi Nos Wener a chynrychiolaeth dda o gystadleuwyr lleol a rhai wedi teithio'n bell dan arweiniad Gladys Thomas o'r Gaiman.
Braf oedd gweld Sara Borda - oedd wedi cael y cyfle i ymweld â Chymru y llynedd a mynychu gwersi drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gwyr - yn defnyddio ei Chymraeg wrth lywyddu'r eisteddfod ar noson y bobl ifanc.
Prif seremoni'r Sadwrn yw Cadeirio'r Bardd a beirnaid cystadleuaeth y Gadair eleni oedd y Prifardd Mererid Hopwood, sydd wedi ennill y Gadair a'r Goron yn ddiweddar draw yng Nghymru.
Mae wedi beirniadu'r gystadleuaeth hon unwaith o'r blaen yn y flwyddyn 2002 ac mi oedd wrth ei bodd i gael y cyfle i wneud eleni eto, ac yn falch o gael y cyfle i ail gydio yn y ddolen rhwng Ysgol Farddol Caerfyrddin ac Eisteddfod Trevelin.
Dyma rai o'i sylwadau am y gerdd fuddugol sef tair soned yn dwyn y teitl, "Ffydd, Gobaith, Cariad" gan "Awelon"
Dywed fod y bardd "yn amlwg wedi deall gofynion mesur y soned" a bod "cyffyrddiadau da hwnt ac yma a'r darllenydd yn synhwyro diffuantrwydd yr holi. Mae Awelon yn "erfyn", yn teimlo "pryder i enaid" ac yn chwilio am "ddehongliad ar y dirgel ffaith".
Mae hefyd yn llawenhau yng ngogoniant " y ddaear, y lloer a'r sêr".
A ymlaen i ddweud: "hoffais y syniad o 'swn' yn dod yn 'dawel'".
Dim ond pytaiu o'r feirniadaeth y gallwn gynnwys fan hyn wrth gwrs ond mae Mererid Hopwood yn groffen drwy ddweud: "Gan ddiolch i Awelon am ymgeisio ac am ei waith. Dyma ddatgan teilyngdod i'r gadair a llongyfarch y bardd buddugol yn gynnes."
Braf felly yw cael rhannu â chi luniau o'r bardd buddugol, Clydwyn ap Aeron Jones o'r Dyffyn.
Yn y llun cyntaf gwelir ef yn cael ei dywys i'r llwyfan gan Eric Cortinez a Sharon Williams ac yn yr ail lun gwelir rhan o seremoni'r cadeirio a'r coroni sy'n cyd redeg yn Eisteddfod Trevelin.
Yn y cendir mae Maer Trevelin a rhai o swyddogion yr Eisteddfod ac aelodau o Orsedd Y Wladfa.
Yn cael ei choroni am ysgrifennu'r gerdd orau yn yr iaith Sbaeneg y mae Hortensia Simms de Cantero y mae ei merch, Ana Clara, wedi ymgartrefu yng Nghymru ers sawl blwyddyn bellach.
Yn tywys Hortensia i'r llwyfan yr oedd Alin Sangiofanni a welir yn gwisgo crys T Ysgol Gymraeg yr Andes a Jennifer Williams.
Wrth son am Drevelin a'i heisteddfod rhaid i ni ddymuno'n dda i Bibiana Portugues sy'n fiocemegydd yn yr ysbyty yn Esquel ac sydd, gyda'i gwr, yn rhedeg hostel Casa Verde yn Nhrevelin gan ei bod wedi cael ei henwebu fel un o gystadleuwyr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 2004.
Edrychwn ymlaen i glywed mwy a dymunwn pob lllwyddiant iddi yn enwedig gan ein bod yn gwybod mor galed y mae wedi gweithio i ddysgu'r Gymraeg a'i bod yn mwynhau cael ymwelwyr Cymraeg i'r hostel er mwyn cael y cyfle i ymarfer yr iaith gyda siaradwyr o Gymru.
|