Mae Capel Bethlehem Treorci yn Y Wladfa yn gant oed eleni
Nos Iau, 17 Ebrill 2008 cyhoeddwyd llyfr dwyieithog, Cymraeg- Sbaeneg, wedi ei baratoi gan Mario Jones, Canmlwyddiant Capel Bethlehem Ardal Treorci a'r Cyffiniau.
Bu'r lansiad yn neuadd Amgueddfa Egidio Feruglio yn Nhrelew ac roedd yr ystafell yn orlawn.
Yr arweinydd oedd Sandra Jones de Monsalve.
Cafwyd gweddi gan Claudia S. Ansaldo de Ortiz, nith i Mario, i ddechrau, a hi, hefyd, oedd yn gyfrifol am ysgrifennu rhagymadrodd i'r llyfr, rhagymadrodd gafodd ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Miss Mair Davies.
I ddilyn, canodd Côr Cymysg Ysgol Gerdd y Gaiman, dan arweiniad Marli Pugh de Villoria gyda Hector Ariel Macdonald yn cyfeilio, O, Nefol Addfwyn Oen.
Darllenodd Claudia ragymadrodd y llyfr yn Sbaeneg a chafwyd sylwadau tra diddorol am y llyfr ei hun gan Dr. Carlos Dante Ferrari, awdur Y Gaucho o Ffos halen a gyfieithwyd i'r Gymraeg a'i gyhoeddi dair blynedd yn ôl.
Pwysleisiodd ef pa mor bwysig oedd gwaith Mario i gadw mewn cof hanes ardal Treorci.
I ddilyn cafwyd diolchiadau gan Mario ei hun ac yna canodd Billy Hughes Yr Hen Gapel Bach ar y dôn Yr Hen Arw Groes ac unwaith eto daeth côr y Gaiman i'r llwyfan i ganu Mae ddoe wedi mynd a dangoswyd tafluniau o gymdogion ac aelodau Capel Bethlehem ar hyd y blynyddoedd.
Roedd hyn wedi ei baratoi yn ofalus gan Daniel Ortiz, gŵr Claudia.
Terfynwyd trwy gydganu yr emyn Pantyfedwen dan arweiniad Marli Pugh de Villoria, gyda Hector Ariel yn cyfeilio.
Mae'r llyfr wedi ei baratoi yn ofalus ac mae ynddo nifer fawr o luniau hyfryd ac ysgrifau gan Irma Hughes de Jones, Arel Hughes de Sarda, Mario Jones, Alwina Thomas, Elba Humphreys de Perrozzi a hefyd gerddi amrywiol a chasgliad o luniau cymdogion yr ardal ar hyd y blynyddoedd.
Mae'r llyfr 196 tudalen a chlawr meddal - (ISBN 978-987-05-4200-1) wedi ei brintio yng ngwasg llyfrgell Agustín Alvarez, Trelew ac wedi ei ariannu gan yr awdur ac yn costio 35 peso - ac mae werth pob sentan o'r pris!
Llongyfarchiadau i Mario am ei waith a diolch yn fawr i bawb a fu yn help iddo. Luned Gonzalez
|