Bu cystadlaethau dawnsio gwerin yn rhan bwysig o Eisteddfod Chubut ers tipyn erbyn hyn, er, yn ôl ambell un, nid oedd dawnsio gwerin yn rhywbeth a ddaeth i'r Wladfa gyda'r ymfudwyr cyntaf.
Ond erbyn hyn bu grwpiau dawnsio gwerin Trelew a'r Gaiman yn cystadlu yn yr eisteddfod ers blynyddoedd ac yn gymharol ddiweddar mae grwpiau newydd o'r Andes, (Trevelin ac Esquel), a'r trefi mawrion ger Môr yr Iwerydd, Comodoro Rivadavia a Madryn wedi ymuno yn yr hwyl.
Ac yn dechrau ennill hefyd!
Neb i'w dysgu Ond, doedd dim un gystadleuaeth ddawnsio clocsiau - am y rheswm syml nad oedd neb ar gael i ddysgu'r stepio ac ati.
Rhyw dair blynedd yn ôl, yn dilyn rhodd arbennig i'r perwyl hwn gan lywydd Cymdeithas Ddawnsio Gwerin, Jean Huw Jones, cyhoeddwyd fideo ar sut i ddysgu clocsio.
Anfonodd Jean gopïau o'r fideo draw i Batagonia, ac yn dilyn ymweliad arbennig Aelwyd Crymych gyda'u clocswyr ifanc y llynedd, doedd dim angen llawer mwy i sbarduno'r bobl draw yno.
Felly, eleni am y tro cyntaf erioed mi fydd cystadleuaeth dawns y glocsen yn Eisteddfod Chubut, fis Hydref.
Ond, mae hanes Y Wladfa yn tystio i'r ffaith nad oedd ac nad yw pethe byth yn hawdd!!
Nid yn unig does ganddyn nhw ddim clocsiau ond does neb yn gwybod pa bren i'w ddefnyddio na holl gyfrinachau'r crydd Cymreig wrth weithio sgidiau felly.
Cynnig prynu Ar ôl cysylltu â Jean Huw Jones a'i gŵr, Huw, i mofyn cyngor ar y mater hwn, dyma Jean a Huw yn cynnig prynu pedwar pâr i alluogi'r bobl i gystadlu.
Roedd Jean a Huw Jones ym Mhatagonia yn 1992, gyda grŵp dan arweiniad y diweddar Barchedig Glyn Ceiriog Evans, Y Groes, Dinbych, pan lansiwyd y syniad o ddanfon pobl ifanc draw i Gymru ar gwrs dwys Cymraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed.
Apeliodd y syniad yn fawr at y grŵp ac mi godwyd swm sylweddol gan yr aelodau i helpu gwireddu'r syniad, gydag un aelod, Rhys Jones, rheolwr banc yn Llangefni, yn actio fel trysorydd y grŵp, cyn iddo ddod yn Drysorydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.
O'r tri myfyriwr cyntaf a ddaeth ar y cwrs yn 1993, Gabriel Restucha, Siôn Carlos Davies a Daniel Escobar, mae'r ddau gyntaf yn awr yn athrawon Cymraeg yn yr ardal.
Mae'r cynllun hwn yn awr dan nawdd y Cyngor Prydeinig, y Cynulliad a Chymdeithas Cymru Ariannin.
Gan fod chwe myfyriwr o Batagonia yma yn awr ar Gynllun Y Cyngor Prydeinig, a newydd orffen y Cwrs Cymraeg yn Llanbedr pont Steffan, daeth tri o'r myfyrwyr i gwrdd â Jean a Huw gan dderbyn y clocsiau ar ran y dawnswyr draw ym Mhatagonia.
Hen gysylltiad Dewiswyd Llangynwyd ger Maesteg ar gyfer hyn oherwydd y cysylltiadau lleol â Phatagonia ac am fod grwpiau dawnsio gwerin yn yr ardal.
Cyd-ddigwyddiad unigryw yw'r ffaith bod un o'r myfyrwyr, Luis Chavarria Owen, yn hanu o deulu Guilford o ardal Penyfai a Llangynwyd, a ymfudodd i Batagonia yn yr 1870au a thynnwyd lluniau o flaen drws eglwys hynafol Llangynwyd.
Wrth gwrs, bydd yn rhaid i'r cystadleuwyr clocsio aros am ychydig bach cyn cael eu ddefnyddio gan na allai'r tri myfyriwr eu cludo drosodd a phan gyrhaeddant bydd yn rhaid rhannu'r clocsiau rhwng y cystadleuwyr nes y bydd digon ar gael ar gyfer pawb.
Yn y lluniau: Llun cyntaf: Jorge Leccese (Gaiman), Luis Chavarria Owen (Comodoro Rivadavia), Juan Alberto Davies (Trelew) a Jean Huw Jones. Yr ail lun: Jean Huw Jones a gyflwynodd gopi arall o'r fideo Dysgu Clocsio i Luis gan nad oes copi o'r fideo gyda nhw yn ngrŵp Comodoro Rivadavia. Jorge, Juan, Luis, Jean a'i hwyres.
|