Bydd Parti Merched y Gaiman o Batagonia yn cynnal cyngerdd cyntaf ei ymweliad â Chymru yng Nghapel Salem, Treganna, Caerdydd, Gorffennaf 7.
Bydd y côr wedyn yn teithio o gwmpas Cymru gan gynnwys nifer o gyngherddau eraill.
Yna, yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, er y bydd y daith drosodd bydd yr arweinydd, Edith MacDonald i'w gweld ar lwyfan y Brifwyl yn arweinydd cyfeillion Cymru o dramor fydd yn yr Eisteddfod.
Edith, sydd yn chwaer i Elvey MacDonald, ffurfiodd y côr yn 1974 a phan sefydlwyd Ysgol Gerdd y gaiman ym 1984 daeth y côr yn rhan o honno.
Mae'n gôr poblogaidd a llwyddiannus yn Y Wladfa ac wedi ennill yn Eisteddfod y Wladfa ac eisteddfodau eraill yno.
Mae'n perfformio hefyd mewn cyngherddau a gwyliau.
Er bod yr aelodau wedi newid dros y blynyddoedd bydd dwy o'r aelodau gwreiddiol ar y daith i Gymru eleni yn ogystal â'r arweinydd.
Y cyfeilydd yw'r cyfansoddwr Héctor MacDonald y perfformiwyd rhai o'i gyfansoddiadau gan Ysgol Gerdd Ceredigion, Cywair, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 大象传媒, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yb.
Bydd dau unawdydd yn teithio gyda nhw, Billy Hughes a Marcelo Griffiths.
Yn ogystal â'r cyngherddau bydd y côr yn yn cystadlu a chanu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen hefyd
Dyma amserlen y daith:
-
Mercher Gorffennaf 7 Capel Salem, Treganna, Caerdydd gyda Chôr Merched y Garth ac CF1 7.30
-
Sul 11 Neuadd Fach Bethesda, Y Tymbl Cwm Gwendraeth 7.30
-
Mawrth 13 Ysgol y Preseli, Crymych gyda Chôr Aelwyd Crymych a Chôr Crymych. 7.00
-
Sadwrn 17 Morlan, Morfa Mawr, Aberystwyth 7.30
Sul 18 Neuadd Llanuwchllyn 7.30-
Iau 22 Capel Gad, Cilcain gyda Chôr Cilcain 8.00
-
Sul 25 Capel Penuel, Ffordd Deiniol, Bangor 8.00
|