Fore Mercher, Rhagfyr 7, 2005, mewn ysbyty yn Esquel, bu farw Moelona Roberts de Drake, yr hynaf o 'blant' Plas y Graig, Y Gaiman.
Efallai nad oedd Moelona'n amlwg yn y gymdeithas fel y mae ei chwiorydd Tegai a Luned a'i brawd yn New Jersey, Dr Arturo Roberts, ond i'r rhai gafodd y fraint o'i hadnabod roedd yma gymeriad diddorol a gwahanol.
Ym mlynyddoedd cynnar Coleg Camwy, cyhoeddid rhestri marciau'r disgyblion ar ddiwedd blwyddyn yn Y Drafod. Flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y rhestri hynny, enw Moelona ddeuai'n gyntaf, a hynny gyda marciau llawn ym mhopeth bron bob tro.
Gadael y Dyfrryn Fel llawer un arall yn y cyfnod bu'n rhaid iddi adael y Dyffryn i gael addysg bellach ond daeth yn ôl yno am gyfnod i ddysgu yn ei hen ysgol cyn gadael i briodi. Dim ond ar ôl i'w gŵr ymddeol y daeth y ddau yn ôl i fyw i'r Gaiman.
Rhyw batrwm mynd a dod rhwng Chubut a rhannau eraill o'r wlad fu ei bywyd gan iddi gael ei magu am rai blynyddoedd y tu allan i'r Wladfa. Dim ond ar ôl ymddeol y bu'n byw yno am gyfnod sylweddol.
Hefyd, un o dras Seisnig oedd ei gŵr, David. Y rhyfeddod felly ydi iddi gadw mor glos at y Gymraeg a phopeth Cymreig.
Dawn lenyddol Roedd ei Chymraeg gyda'r mwyaf graenus bob amser a doedd dim rhaid golygu dim a sgrifennai. At hynny, roedd ganddi ddawn lenyddol na chafodd ei fynegi'n llwyr am iddi roi ei hamser i bethau eraill.
O ddarllen ei chyfraniadau i'r gyfrol Agor y Ffenestri ni all dyn ond rhyfeddu fod y fath iaith ac arddull i'w gael gan un y bu ei chysylltiad uniongyrchol â Chymru mor brin.
Roedd Moelona'n wraig grefyddol iawn, yn cymryd ei Christnogaeth o ddifri. Er y deuai i wasanaethau yng nghapel Bethel, gyda'r Brodyr yr oedd ei chalon ac yno yn ei heglwys yr oedd yn fawr iawn ei pharch.
Gwraig unionsyth ym mhob ffordd oedd hi, yn dal a thenau o ran ei golwg ac yn gwbl union a chyfiawn yn ei byw hefyd.
Ond peidied neb â meddwl bod ei chrefydd wedi ei gwneud yn ddi-hiwmor. I'r gwrthwyneb, roedd yna ryw chwerthin direidus yn cuddio o dan yr wyneb drwy'r amser a bydd y wên serchus yn aros yng nghof
pawb gafodd y fraint o'i hadnabod.
Nerth ac anrhydedd Mewn ysgrif ar ei nain dyfynnodd Moelona'r geiriau hyn o Lyfr y Diarhebion, geiriau sydd yr un mor wir amdani hi:
"Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd, ac yn wynebu'r dyfodol gan chwerthin. Y mae yn siarad yn ddoeth, a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod. Y mae'n sylwi'n fanwl ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu, ac nid yw'n bwyta bara segurdod."
|