Ymwelodd un o gyflwynwyr y rhaglen deledu Ffeil ag ysgolion Cymraeg yr Andes ym Mhatagonia yn ddiweddar.
Galwodd Karen Peacock yn ystod ei thaith trwy Batagonia a oedd yn rhan o daith lawer hwy o gwmpas y byd.
"Fe wnaeth hi gytuno'n hynod o garedig i gynnal noson i rannu rhai o'i phrofiadau a lluniau gyda ni yma yn y Ganolfan Gymraeg yn Esquel ar gyfer pobl Esquel a Threvelin," meddai Gill Stephen, athrawes o Gymru sy'n treulio cyfnod ym Mhatagonia.
Ymwelodd Karen sy'n un o gyflwynwyr y rhaglen newyddion a materion cyfoes i bobl ifainc, Ffeil, hefyd â phlant Ysgol Gymraeg Trevelin gan fynd ag arth fach goch o'r enw Glyndŵr gyda hi!
Mae Glyndŵr yn teithio gyda Karen fel rhan o brosiect gydag Ysgol Gynradd Chwilog ac wedi cael tynnu ei lun mewn sawl lle diddorol iawn.
"Roedd y plant wrth eu boddau gyda Karen a Glyndŵr. Dwi hefyd wedi cael ar ddeall gan Edward Elias, Prifathro Ysgol Chwilog, bod 'na arthes fach werdd ar ei ffordd atom ni yn y post, yn anrheg gan blant y Chwilog," meddai Gill.
"Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gychwyn perthynas agos rhwng Ysgol Gynradd Chwilog ag Ysgol Gymraeg Trevelin ac y bydd modd inni weithio gyda'n gilydd ar brosiectau yn y dyfodol," ychwanegodd.
|