大象传媒


Explore the 大象传媒

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



大象传媒 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Rhai o'r myfyrwyr Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad
Gweinidog yn canmol cynllun dysgu Cymraeg

Cafodd saith o fyfyrwyr o Batagonia sy'n astudio yng Nghymru eu croesawu gan un o weinidogion y llywodraeth pan oeddan nhw ar ymweliad â'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Dywedodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon, fod cymunedau Patagonia yn adlewyrchiad unigryw o le Cymru yn y byd.

Y myfyrwyr gydag Alun Pugh"Ac mae'r prosiect iaith," meddai Mr Pugh, yn helpu i feithrin cysylltiadau gwerthfawr iawn sy'n cyfoethogi'r ddwy wlad yn ogystal â datblygu proffil Cymru yn rhyngwladol."

Mae'r saith yn astudio cwrs dwys yn y Gymraeg yn Llanbedr Pont Steffan lle mae o leiaf chwech o ddysgwyr o Batagonia yn cael eu derbyn am ddeufis bob blwyddyn.

Dychwelyd yn diwtoriaid
Yn y gorffennol mae nifer wedi dod yn diwtoriaid y Gymraeg ar ôl dychwelyd adref.

Mae'r cwrs yn Llambed yn rhan o Brosiect yr Iaith Gymraeg ym Mhatagonia - menter unigryw wedi ei chyllido gan y Cynulliad i hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru ym Mhatagonia - ac yn cael ei gefnogi gan Gymdeithas Cymru-Ariannin.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr i Lanbedr Pont Steffan bob blwyddyn ac fel Cymdeithas rydym yn falch o gael talu am eu lle a chostau eraill gyda chyfraniad ariannol o Gronfa Mari a Pryderi ar gyfer Patagonia De America," meddai Ceris Gruffudd, ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.

"Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt dros yr wyth wythnos eleni ac rydym yn sicr wedi iddynt ddychwelyd y bydd trigolion Chubut yn elwa ar eu hamser yng Nghymru," ychwanegodd.

Hyrwyddo'r Gymraeg
Sefydlwyd y cynllun athrawon Cymraeg ym Mhatagonia yn 1997 dan reolaeth y Cyngor Prydeinig, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd a Chymdeithas Cymru-Ariannin.

Cyn hynny bu nifer o Gymry yn cynnal gwersi yn wirfoddol ym Mhatagonia, rhai fel Cathrin Williams, Gwilym Roberts a Hazel Charles Evans.

Nid oes amheuaeth na fu'r cynllun yn fodd i hyrwyddo'r Gymraeg yn sylweddol yn Y Wladfa gan hyd yn oed godi proffil y Gymraeg ymhlith awdurdodau lleol Chubut a gefnogodd agor yr ysgol ddwyieithog gyntaf yn Nhrelew fis Mawrth 2006.



Meddai Linda Hall, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor Prydeinig Cymru:
"Mae'r Cyngor Prydeinig yn hyrwyddo'r iaith Saesneg ledled y byd ond mae hwn yn gyfle unigryw, drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad, i hyrwyddo'r Gymraeg ar lefel ryngwladol.

"Mae'n adlewyrchu pwrpas y Cyngor Prydeinig wrth iddo feithrin cysylltiadau rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill sydd o fantais i bawb."

Mae'r cynllun yn cael £105,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2006-2009.
  • Y Myfyrwyr eleni yw: Silvia Williams de Austin, Esquel; Isaías Grandi, Trevelin; Federico Humphreys, Trelew; Valeria Lewis, Trelew; Patricia Ramos, Tir Halen; Mirta Sepúlveda, Gaiman and Ana I. Chiabrando, Trelew.





  • de america

    Yr Ariannin
    Apel am pesos coch y delyn

    Newyddion y Gaiman

    Y Cymry a dynnodd ddeigryn i lygaid Chile

    Cymorth i fyfyrwyr o'r Wladfa

    Ymweliad criw Ystradgynlais

    Gwneud Cymry Patagonia yn atyniad twristaidd

    Eisteddfod Trevelin 2004

    Taith côr i ymweld â gwreiddiau

    Newyddion

    Croesawu myfyrwyr 2006 yn y Cynulliad

    Chwilio am lythyrau Gwladfawyr

    Cofio Lewis Jones yn y Wladfa

    Kyffin Williams ym Mhatagonia

    Marw Ieuan May Jones

    Agor Ysgol yr Hendre

    Chwilio am wreiddiau

    Newyddion Gorffennaf 2006

    Taith bro'r Gadlas

    Eisteddfod y Bobol Ifainc 2003

    Teyrnged i ffotograffydd blaengar

    O Batagonia i wlad ei dadau

    Llwyddiant cynllun athrawon

    Darlith i gofio Lewis Jones

    Diwrnod y gêm

    O Grymych i Ariannin

    Dathliadau canmlwyddiant Coleg Camwy

    Hwb i ddawns y glocsen

    Angen cymorth yn Nhrelew

    Croesawu ymwelwyr

    Dod a'r Andes a Chaerdydd at ei gilydd

    Ymweliad Llysgennad - ac efeillio

    Cofio'r croesawydd siriol

    Newyddion Rhagfyr

    Newyddion Mehefin 2006

    Cyhoeddi llyfr Bardd y Neuadd Wen

    Darlledu Neges Ewyllys Da 2008

    Cofio Moelona

    Cofio'r Mimosa

    Y Mimosa yn ôl yn Lerpwl

    Ysgol feithrin

    Michael D. Jones a'r Wladfa Gymreig

    Newyddion Mawrth 2006

    Marw Marta Rees, Plas y Coed

    Marw Mair Davies

    Ethol Cymro yn faer

    Llyfrau Cymraeg yn cyrraedd y Wladfa

    Yn y llwch a'r lludw

    Cyfarfod Karen a Glyndŵr

    John Daniel Evans - cyhoeddi llyfr am El Baqueano

    Cyffroi'r ifanc ar ymweliad

    O Fro Dinefwr i'r Wladfa

    Enw newydd i ysgoloriaeth

    Ennill Ysgoloriaeth Tom Gravell 2007

    Aelodau newydd
    Gorsedd y Wladfa 2008


    Cofio Virgilio Horacio González

    Glaniad - gwefan newydd hanes Patagonia

    Newyddion da wrth ddathlu Gŵyl y Glaniad

    Gŵyl y Glaniad 2005

    Pecynnau i ysgolion

    Darganfod y Gymraeg

    Eisteddfod 2007

    Cadair y Wladfa 2008 i Cefnfab

    Ysgol y Dreigiau Bach

    Cinio blynyddol

    Croeso i gylchgronau Cymraeg

    Ymweliad Cor Merched y Gaiman

    Marw cerddor neilltuol

    Ysgol Trelew

    Cyfarfod Chwaraewyr rygbi 2006

    Cadair y Wladfa 2005

    'Niwtraleidio'r' Gymraeg ym Mhatagonia

    Cyhoeddi hanes Bethlehem

    Chwilio am athrawon i'r Wladfa - 2007

    Athrawon 2007

    Arwyddion dwyieithog

    Colli bardd swynol

    Hanes yn y Gymraeg mewn hen felin

    Alwina - bywyd o gywirdeb a safon

    Paratoi i ddathlu canrif a hanner

    Mimosa - canmol y fenter

    Y Mimosa

    Maradona:

    Lluniau Patagonia

    Marw Irma - prif lenor Y Wladfa a golygydd Y Drafod

    Sgrech y dathlu!

    Merch y paith yn cymharu Cymru a Phatagonia

    Cofio Fred Green

    Edrych ymlaen at lanolin

    Profiad Patagonia

    Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

    Dafydd Du ym Mhatagonia

    Nadolig yng ngwres yr haf

    Dathlu rhan Cymry yn antur ynys newydd

    Ymweliad Côr y Wladfa

    Dwr a bwledi plastig yn Nhrelew




    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy