Mae'r arbrawf yn cychwyn i gyd-fynd a Gwyl y Glaniad, Gorffennaf 28, 2004, gyda'r bwriad o'i ymestyn erbyn dathliadau 140 mlynedd glaniad y Cymry cyntaf y flwyddyn nesaf.
Y tu ôl i'r fenter mae Adran Ddiwylliant talaith Chubut a'r Adran Dwristiaeth.
Fel rhan o ddathliadau Gwyl y Glaniad eleni, 2004, trefnir teithiau o gwmpas y capeli a adeiladwyd gan y gwladfawyr cyntaf.
Rhagwelir y bydd hyn yn gychwyn i gynllun a fydd nid yn unig yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol bwysig ond hefyd o les i'r economi leol.
Cynllun uchelgeisiol "Lluniodd Ysgrifenyddiaeth Ddiwylliant ac Ysgrifenyddiaeth Dwristiaeth talaith Chubut strategaeth uchelgeisiol dymor byr i ledaenu a gwerthfawrogi'r diwylliant Cymreig cyfoes yn Chubut, ei gynhyrchion a'i botensial twristaidd," meddai datganiad gan yr adran ddiwylliant yn tynnu sylw at y cynllun.
Bu hysbysebion, yn barod, ar sianeli teledu cenedlaethol Ariannin i dynnu sylw at yr ymgyrch gydag aelodau amlwg o'r gymdeithas Gymraeg ym Mhatagonia yn cymryd rhan - Côr Ysgol Gerdd y Gaiman, Héctor Ariel Mac Donald, Luned Roberts de González, Tegai Roberts, Gerallt Williams, Waldo Williams, Isabel Irma Roberts de Williams, Rackel Davies, Aluina Thomas, Valy Pugh, May Hughes, Mair Davies a Gabriel Restuchia.
Dywedodd Fernando Lopez Guzmán o'r Ysgrifenyddiaeth Ddiwylliant mai'r nod yw "codi ymwybyddiaeth o'r pwnc yn y wlad trwy gyflwyno gwybodaeth sylfaenol am yr etifeddiaeth Gymraeg bwysig ym Mhatagonia.
Glaniodd y Cymry cyntaf ym Mhatagonia ar Orffennaf 28, 1865, ym Mhorth Madryn ac y mae hi eleni hefyd yn ganmlwyddiant marwolaeth un o hyrwyddwyr pennaf y mudo hwnnw o Gymru, Lewis Jones y mae ei enw yn dal i gael ei gadw'n fyw ym Mhatagonia yn enw'r dref, Trelew.
Enghraifft brin Mae ymdrech y Cymry i wladychu'r wlad yn un o'r enghreifftiau prin hynny o wladychu di-drais gyda chydweithrediad â'r brodorion cynhenid.
Yr oedd diogelu eu Cristnogaeth Gymraeg yn ganolog i ymdrechion y gwladfawyr cynnar a dywedir fod olion hynny i'w weld hyd heddiw ar strwythur cymdeithasol Chubut heddiw er mai rhan fechan iawn o'r boblogaeth sy'n Gymry erbyn hyn.
"Y mae eu breuddwyd wedi dwyn ffrwyth ac heddiw mae'n angenrheidiol gweithio'n galed i ledaenu gwybodaeth am ei bwysigrwydd a diogelu'r etifeddiaeth," meddai datganiad yr Ysgrifenyddiaeth Ddiwylliant.
"Nid oes llawer o ymwybyddiaeth am y Wladfa ym mannau eraill y weriniaeth," ychwanega.
I gyd-fynd a 140 pen-blwydd y glaniad yn 2005 mae cynllun i adfer rhai o'r nifer o gapeli Cymreig traddodiadol sydd yn y Wladfa - a adeiladau sy'n cael eu hystyried fel y dystiolaeth fwyaf gweladwy o'r presenoldeb Cymreig.
Teithiau capel Dywedodd Nadia Hildemann, sy'n gyfrifol am y prosiect ar ran yr Ysgrifenyddiaeth Twristiaeth, y bydd y capeli yn rhan o deithiau twristaidd gyda disgynyddion y gwladfawyr neu alodau'r capeli ar gael i dywys ymwelwyr.
"Nid yn unig bydd canlyniadau'r prosiect o les i dwristiaeth ddiwylliannol ond bydd hefyd yn fodd i hybu cynhyrchion yn ymwneud â'r diwylliant Cymreig a'i hetifeddiaeth," meddai.
|