Y Bonwr González
Bu farw fore Sul, Mai 28, 2006, a'i gladdu hanner dydd, ddydd Llun ym mynwent Gaiman.
Os bu bonwr erioed Virgilio Horacio González oedd hwnnw. Fel gŵr i Luned González y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gofio, ond nid felly y rhai oedd yn eu cyfrif eu hunain yn gyfeillion iddo.
Mae'n wir mai fel gŵr i un o Gymry amlwg y Gaiman y daeth o i gysylltiad â'r Cymry - wedi'r cyfan i un a aned ac a fagwyd yn Buenos Aires prin y gellid disgwyl iddo fod yn ymwybodol o'r Wladfa.
Ond fe ddaeth yn athro i Drelew a syrthio mewn cariad efo un o'i ddisgyblion, priodi a mabwysiadu ei phobl hi yn bobl iddo yntau.
Na, wnaeth o erioed ddysgu Cymraeg ond fe wyddai fwy na'r rhan fwyaf o'r Cymry am hanes y Wladfa yn ei blynyddoedd cynnar.
Yn fwy na hynny, fe wnaeth yn sicr fod eraill yn dod i wybod yr hanes drwy ysgrifennu ac arlunio stribedi cartŵn yn y papur newydd a thrwy gyhoeddi llyfr ar hanes Cwm Hyfryd a'u pleidlais dros aros yn rhan o Ariannin.
Straeon byrion Nid hanesydd yn unig oedd y Bnr González. Ysgrifennai straeon byrion â hanes cynnar y Cymry yn gefndir iddyn nhw, straeon a gyfieithwyd i'r Gymraeg a'u cyhoeddi mewn rhifynnau o Taliesin.
Yn athro y daeth i'r Dyffryn a dyna fu gwaith ei fywyd, addysgu disgyblion a myfyrwyr gan geisio rhoi iddyn nhw ddealltwriaeth o'r graig y naddwyd hwy ohoni.
Ac roedd gan y disgyblion hynny feddwl y byd ohono fo, gan adnabod ei ddiddordeb byw ynddyn nhw.
Trafod a dadlau Wedi dod i'r Dyffryn prin y gadawodd y lle wedi hynny a byr oedd ei ymweliadau â'r ddinas y magwyd o ynddi.
Yn hytrach na bwrlwm y Brifddinas daeth bywyd gwahanol y Gaiman yn fywyd iddo yntau a throes Plas y Graig yn wir yn graig a noddfa iddo fo.
Yno, gyda'i deulu yr oedd ar ei orau, yn trafod a dadlau, a'r pynciau yn rhyfeddol o amrywiol.
I lawer un roedd Virgilio González yn wyddoniadur ynddo'i hun a'i ddiddordeb byw ym mhopeth a'i wybodaeth drylwyr yn arbed llawer o ddarllen a chwilota i eraill!
Ar ddechrau'r deyrnged annheilwng iawn hon fe gyfeiriais at Virgilio González fel gwir fonwr.
Dyma'r agwedd y byddai'r ymwelwyr o Gymru a gafodd groeso ar ei aelwyd fwyaf ymwybodol ohoni.
Er na ddeallai'r iaith, roedd ei groeso bob amser mor gwrtais a chynnes ac fe gofia pawb ohonom y gŵr tawel hwn a'i ledneisrwydd.
Gŵr Luned, ie, a chyfaill pob Cymro fu drwy ddrws Plas y Graig.
Mae'n rhyfedd meddwl y bydd colled ar ôl dyn mor dawel yn cyrraedd ymhellach o lawer na'i deulu ac yn croesi'r Iwerydd, gan adael bwlch yma hefyd na ellir ei lenwi.
|