Ddydd Gŵyl Dewi 2009 bu farw Arel Hughes de Sarda yn 88 oed wedi gwaeledd hir iawn.
Efallai nad yw´r enw mor gyfarwydd â hynny i lawer o gyfeillion y Wladfa gan i Arel fyw i raddau helaeth yng nghysgod ei chwaer fwy adnabyddus, Irma Hughes de Jones.
Mewn llawer peth roedd y ddwy yn debyg iawn i'w gilydd, yn hoffi darllen ac ysgrifennu, yn cystadlu mewn eisteddfodau ac yn hoff o fyd natur a bywyd ar y ffarm.
Ond yn wahanol i Irma, doedd Arel ddim yn berson cyhoeddus mewn unrhyw ystyr i'r gair. Yn wir, pur anaml y gwelid hi ar achlysuron cymdeithasol gan fod yn well ganddi gwmni teulu a ffrindiau agos.
Yn wahanol i Irma, a dreuliodd ei hoes ar y ffarm ble cafodd ei geni a'i magu, aeth Arel i fyw y tu allan i gymdeithas ar ôl priodi gan mai gweithio ar y camp y bu ei gŵr ac yno mewn unigedd yn aml iawn y bu hithau nes i´r plant ddod i oed mynd i´r ysgol ac iddyn nhw o´r herwydd ddod yn ôl i´r dref i fyw.
Ei bywyd ar y camp yw testun rhai o´i hysgrifau gorau. Yn y rhain y gwelir ei hadnabyddiaeth o fyd natur a'i hoffter ohono. Ceir yr un themâu yn rhai o'i cherddi hefyd, cerddi a enillodd iddi bedair cadair yn Eisteddfod Trelew a dwy yn Eisteddfod Trevelin.
Roedd hefyd yn delynegwr swynol ac yn sonedwr heb ei hail. Does ryfedd bod adrodd cyson ar ei gwaith mewn eisteddfodau a chyngherddau yn y Wladfa, a hynny gan genhedlaeth newydd o adroddwyr nad ydyn nhw wedi cael y fraint o adnabod yr awdur.