| |
|
Actus Reus - adolygiad Gor goractio - os oes y fath beth!
Dau adolygiad o'r Bara Caws diweddaraf
Adolygiad Rhodri Ll Evans o Actus Reus gan Valmai Jones. Bara Caws. Tachwedd 2006.
Gellir clicio i adolygiad arall ar waelod y ddalen
Roedd llofruddiaeth yn y gwynt yn Neuadd Goffa Amlwch wrth i'r neuadd lawn ddisgwyl yn eiddgar am berfformiad diweddaraf Bara Caws, Actus Reus gan Valmai Jones gyda Tony Llywelyn yn cyfarwyddo.
Nrewid byd Mae Magi Bowen (Valmai Jones) yn actores sydd bellach wedi cyfnewid byd y llwyfan am westy Ash Hall (da 诺an...) ym Mhen Ll欧n.
Yn ei helpu (dadleuol), y mae Beenie Stokes (Maldwyn John), rhyw gr'adur diniwed Manuel-aidd sydd ag obsesiwn 芒 George Formby.
脗'r mags braidd yn dynn, mae Magi yn gwahodd Henryd P. Rowlands (Dyfan Roberts) a'i bladras o wraig, Dame Elenora Pritchard OBE (Sue Roderick) i gynnal Murder Mystery Weekend ger bron twristiaid o Lerpwl - perfformiad o Death of a Diva Henryd.
Yn rhan o'r 'cast' y mae Richard Edgar (Eilir Jones) ac yn nes ymlaen yn y ddrama, Rhys ap Brynmor (Jonathan Nefydd).
Maent oll yn actorion sydd wedi hen ddweud ta-ta wrth eu hoes aur ar lwyfannau'r wlad a gellir eu dosbarthu i'r grwpiau canlynol: Magi (yr actores sy'n hiraethu am y dyddiau a fu), Beenie Stokes (yr hoffus ddiniwed), Henryd (y 'perfformiwr mawr' sydd byth a beunydd yn dyfynnu llithiau Marc Anthony), Elenora (y difa di-flewyn-ar-dafod sy'n yfed jin fesul galwyn) Richard Edgar (y perfformiwr camp) a Rhys (yr actor sy'n cael y cyfle i wireddu ei freuddwyd o gael actio'r Inspector go-iawn).
Actor marw Ond wrth iddi luwchio'n ddidrugaredd y tu allan, mae'r ymwelwyr o Lerpwl yn ffonio i ganslo a chyn i'r cast gilio o'r llwyfan, mae un ohonynt yn farw.
A hynny dan amgylchiadau amheus iawn. Llofruddiaeth.
Buan iawn y daw'n amlwg i'r cast fod y llofrudd yn eu plith...
Yr hyn a gawn wedyn yw'r hen, hen, fformiwla (boblogaidd) o Inspector unig yn ceisio canfod y llofrudd a hynny dan amgylchiadau clawstroffobig gwesty gwledig dan warchae'r eira.
Hen het braidd ac nid oes gwir ymgais i gynnig cipolwg newydd ar genre sy'n llethol o s芒ff.
Dull hirwyntog Roedd meddwl am Cluedo, Poirot, Midsomer Murders a'u tebyg yn anochel wrth wylio'r ddrama ac mae'n rhaid i mi gyfaddef iddi rygnu yn ei blaen tuag at ei therfyn gyda'r diweddglo yn gymharol ragweladwy.
Gellid fod wedi ei thocio'n sylweddol a'i chyflymu rhyw fymryn.
Roedd cyflwyno 'motif' neu gymhelliad pob cymeriad fesul un yn ddull eithaf hirwyntog a'r cyfan yn llithro i niwl diflastod wedi i'r 'Inspector' gyfweld yr ail gymeriad.
脗 chynulleidfaoedd ledled Cymru bellach wedi hen arfer 芒 hiwmor ffraeth Bara Caws, llugoer oedd ymateb cynulleidfa'r Neuadd Goffa yn Amlwch i'r hyn a oedd ar y llwyfan ac ni fu morio chwerthin torfol o gwbl, dim ond rhyw 'ha-ha-ha' cwta yn awr ac yn y man.
Oedd, roedd rhai llinellau a golygfeydd yn ennyn mwy o ymateb na'i gilydd ond ar y cyfan, teimlwn fod y sgript braidd yn fflat ac yn brin o'r 'sbarc' hwnnw a fu mor nodweddiadol o berfformiadau Bara Caws ar hyd y blynyddoedd.
Ond eto, roedd y 'sbarc' i'w gael ar adegau - j么cs am enwogion Cymru ac ati - ac yn nes at steil y sioeau clwb ond nodwyddau m芒n mewn tas fawr oedd y rhain yn anffodus.
Gor goractio Gwn mai comedi yw hi ac mai goractio, o bosib, yw un o nodweddion amlycaf dram芒u'r genre hwnnw a gwn hefyd mai hynny yw un o rinweddau'r lyfis ystrydebol a bortreadir ynddi ond mae ffasiwn beth a gor goractio ac roedd ambell un o berfformwyr y noson yn ei gorwneud hi'n sylweddol.
Serch hyn, dylid nodi fod y rhai ieuanc yn y gynulleidfa yn ei morio hi ar adegau ac yn hyn o beth, roedd yn llwyddo yn ei hamcan fel 'comedi deuluol'.
Mae'n debyg mai eu hoff gymeriad oedd Elenora - rhyw Cruela De Ville feddw, finiog ei thafod.
Yr unig drueni yw nad oedd y rhieni yn cael yr un diddanwch 芒'u plant.
Efallai bod llunio sgript ar gyfer plant ac oedolion a diddanu'r ddwy garfan i'r un graddau yn dasg braidd yn rhy uchelgeisiol. Rwy'n sicr y byddai dwy sioe ar wah芒n - un i blant ac un arall i oedolion - yn llawer mwy llwyddiannus.
Tipyn o siom, felly, oedd Actus Reus. Enghraifft brin iawn o gynhyrchiad Bara Caws yn methu 芒 tharo deuddeg.
Cysylltiadau Perthnasol
Manylion taith Actus Reus
Adolygiad Glyn Jones
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|