|
Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r - barn Vaughan Hughes Cyfarwyddwr yn ymddiheuro wrth Brifardd
Sbarcs nid s锚r!
Mae'r cyhoeddusrwydd a luniwyd ar gyfer drama am Hedd Wyn sydd ar daith o amgylch Cymru mewn peryg o fod yn gymaint o destun trafod a'r ddrama ei hun.
Yn syth wedi dau berfformiad o Mae Gynnon Ni Hawl ar y S锚r yn Theatr Gwynedd Bangor cwynodd dau adolygydd nad yw'r ddrama gan Iwan Llwyd yn cyflawni'r hyn a ddywed y cyhoeddusrwydd a baratowyd gan gwmni Llwyfan Gogledd Cymru.
Ac ar Radio Cymru clywyd cyfarwyddwr y ddrama yn ymddiheuro yn bersonol i 'r Prifardd Alan Llwyd am briodoli iddo ef y ddamcaniaeth yn y cyhoeddusrwydd.
Addawyd yn y cyhoeddusrwydd hwnnw fod y ddrama nid yn unig yn codi cwestiynau dadleuol yngl欧n a statws Hedd Wyn fel bardd ond hefyd yn awgrymu na fyddai wedi ennill cadair Eisteddfod Penbedw oni bai iddo gael ei ladd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Wrth adolygu'r ddrama i 大象传媒 Cymru'r Byd dywedodd Eifion Lloyd Jones nad oes dim o hyn yn y ddrama a thradwy'r perfformiad bu dadl ddiflewyn ar dafod rhwng Vaughan Hughes a chyfarwyddwr y ddrama, Ian Rowlands, ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen
Gwadodd Ian Rowlands fod yr hyn a alwodd Gwilym Owen yn "heip" wedi bod yn gamarweiniol gan ddweud:
"Dydw i ddim yn meddwl a bod yn onest [ei fod yn gamarweiniol]; dyna oedd wrth wraidd y ddrama yn meddwl Iwan Llwyd," meddai gan ychwanegu i'r syniad ddeillio yn y lle cyntaf o lyfr gan Alan Llwyd am Hedd Wyn.
Ers blynyddoedd "Felly, mae'r syniad wedi bod o gwmpas am flynyddoedd a dyna oedd ysgogiad i Iwan sgrifennu y ddrama efallai," meddai.
Ychwanegodd nad oedd ganddo ef na Llwyfan Gogledd Cymru lais o gwbl yng ngwneuthuriad y ddrama:
"Syniad Iwan yw'r ddrama a'r oll rydym ni wedi wneud - llwyddo i'w wneud gobeithio - ac mae Iwan wedi datgan ei bleser o'r ddrama [yn] gwireddu ei weledigaeth ef a gwireddu yr hyn yr oedd ef yn moyn ei osod o flaen y genedl."
'Carlamus a di-sail' Ond ar sail sgwrs a gafodd gydag Alan Llwyd dywedodd Vaughan Hughes nad yw'r ddrama yn adlewyrchu o gwbl syniadau Mr Llwyd:
"Gaf i, i gychwyn, wadu ar ei ben yr haeriad yma mae Ian wedi'i wneud . . . mai adlewyrchu syniadau Alan Llwyd oedden nhw.
"Mi roeddwn i'n clywed hyn yn cael ei ddweud yn Theatr Gwynedd gan amryw o bobl ac mi ffoniais i Alan bnawn ddoe ac mae Alan yn gwaredu eich bod chi yn priodoli y damcaniaethau carlamus, di-sail, yma iddo fo. Dydi o ddim yn credu dim o'r pethau yma," meddai.
"Dydi o ddim yn credu mai cynllwyn gan y Swyddfa Ryfel i wneud sioe fawr ym Mhenbedw oedd seremoni Bardd y Gadair Ddu, dydi o yn sicr ddim yn credu fod Hedd Wyn yn fardd digon s芒l ag y byddem ni wedi anghofio amdano fo oni bai ei fod o wedi ennill dan amgylchiadau mor drist.
"Does yna ddim sail o gwbl, Ian, i briodoli'r pethau yma i Alan Llwyd."
Cael ei gamarwain Ychwanegodd Vaughan Hughes hefyd iddo ef hefyd gael ei gamarwain gan y cyhoeddusrwydd i'r ddrama;
"Yr oeddwn i wedi fy nghamarwain, welais i ddim, chlywais i ddim o'r pethau yma [yn y ddrama]. Cofiwch, gan eu bod nhw yn syniadau mor hurt, yr haeriadau yma sydd wedi cael eu gwneud yn y cyhoeddusrwydd am Hedd Wyn, mae o'n llawn gwell nad ydyn nhw ddim yn y ddrama," meddai.
"Ac mi ddwedais i hyn wrth Ian nos Wener; nad oeddwn i ddim yn gweld fod yna ddim cysylltiad rhwng yr heip a'r cyhoeddusrwydd a'r hyn oedd yn y ddrama. Ac roeddwn i'n meddwl nos Wener, Ian, eich bod chi yn rhyw how gytuno a mi," meddai.
Ymddiheuro "Ydw i ryw raddau - mae angen creu heip yn does," meddai Ian Rowlands gan fynd ymlaen i ymddiheuro ar y rhaglen i Alan Llwyd am briodoli'r damcaniaethau iddo ef.
"Athroniaeth Iwan sydd y tu 么l i'r ddrama. Falle'n bod ni yn gyfrifol am y cyhoeddusrwydd ac roedd yn adlewyrchu'r sgyrsiau roeddem ni wedi gael gyda'r Prifardd ac felly gaf i ymddiheuro i Alan Llwyd yn bersonol ond rwy'n falch fod unrhyw fath o gyhoeddusrwydd yn dda ac yn falch ein bod yn trafod y ddrama ar yr awyr," meddai.
"Ond gai obeithio fod y gynulleidfa yn mynd i fwynhau y ddrama yn hytrach na beirniadu y ddrama ar y cyhoeddusrwydd," ychwanegodd.
Wedi'u tynghedu i fethiant Ond bron iawn nad oedd gan Vaughan Hughes lai i'w ddweud wrth y ddrama nag wrth y cyhoeddusrwydd er iddo ganmol yn uchel berfformiadau y tri actor a gymerai ran a chyfraniad Ian Rowlands fel cyfarwyddwr.
"Yr oedd gennych chi dri actor oedd ddim yn llurgunio ac yn mwrdro'r Gymraeg," meddai.
"Ian," meddai wedyn, "yr oeddwn i'n meddwl eich bod chwithau wedi gwneud gwyrthiau yn cael cymaint o symud ac a gawsoch chi i ddrama ddisymud a geiriol iawn."
Ond ychwanegodd:
"Yn y b么n yr oeddech chi i gyd wedi'ch tynghedu i fethiant oherwydd ei bod hi yn ddrama mor sobor, yn fy marn i, o ddiflas."
Yn ddrama bwysig Ymatebodd Ian Rowlands mai drama yw hon am y cydbwysedd rhwng celfyddyd a gweithredu.
"Ac y mae hwnnw yn rhywbeth sydd yn bwysig i mi fel dramodydd hefyd - rwy'n teimlo weithiau fy mod yn gwastraffu fy amser yn sgrifennu lle dylwn i fod yn gweithredu . Felly, rwy'n meddwl ei bod yn ddrama eithaf pwysig yngl欧n a lle mae Iwan fel bardd ar hyn o bryd "
Ond yng ngolwg Vaughan Hughes drama "simplistig iawn" yw hi.
"Beth oedd gynno ni oedd milwr o'r Wcraen yn dweud Gynnau nid geiriau sy'n mynd i ddod a byd newydd inni a'r bardd yn credu mewn geiriau tra mai'r gwir yw , fel mae Iwan Llwyd yn gwybod yn iawn, ein bod ni angen beirdd a milwyr i gael maen chwyldro i'r wal. Yr oedd hi yn na茂f ac yn syml iawn," meddai.
Ond croesawodd Ian Rowlands y ffaith fod y ddrama yn cael ei thrafod ar adeg pan fo cyn lleied o drafod ar ddrama yng Nghymru.
"Rydw i'n croesawu eich sylwadau chi yn fawr iawn," meddai wrth Vaughan Hughes gan ychwanegu mai ap锚l y ddrama iddo ef oedd y trafod ar y ddeuoliaeth rhwng creu a gweithredu - rhwng gwneuthurwyr ac artistiaid.
Gwneud i bobl feddwl "Mae'n ddrama sy'n mynd i brocio ac i wneud i bobl feddwl," meddai.
"Jyst gosod safbwynt mae Iwan ac mae'n ddifyr trafod y safbwynt."
Ond wrth grynhoi ei ymateb i'r ddrama dywedodd Vaughan Hughes;
"Mae yna olygfeydd lle mae Ian wedi cyfarwyddo yn sensitif ac yn llawn dychymyg a lle mae hi yn symud ond am wyth deg y cant o'r ddrama - ac nid bai Ian na'r actorion oedd hynny - drama radio oedd hi ac nid drama radio arbennig o ddifir . . .
"Rhyw ddwy olygfa fuaswn i wedi golli taswn i wedi cau fy llygaid! A phe byddwn i wedi cau fy llygaid mae'n beryg mai wedi mynd i gysgu fuaswn i!"
Meddai Iwan Llwyd - rhan o gyfweliad gyda Beti George ar Y Celfyddydau Mawrth 7, 2007. Barn Sian Northey a Manon Steffan Ross - yn cael eu holi gan Beti George ar Y Celfyddydau Mawrth 7, 2007.
Cysylltiadau Perthnasol
'Yr heip'
Adolygiad Eifion Lloyd Jones
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|