| |
|
Ffernols Lwcus Hwyl a helynt ennill loteri
Adolygiad Dafydd Meirion o Ffernols Lwcus - addasiad Bryn F么n o Lucky Sods gan John Godber. Theatr Bara Caws. Theatr Gwynedd, Bangor, Ebrill 9, 2005Dydy pres ddim yn bopeth - ond mae o'n dipyn o help pan nad oes ganddo chi arian i dalu am y trydan.
Dau gwpwl sydd yn Ffernols Lwcus gyda'r ddwy wraig yn chwiorydd.
Mae Jean (Gwenno Elis Hodgkins) a Morris (Wyn Bowen Harries) wedi priodi ers dros ugain mlynedd ac yn dechrau teimlo nad ydyn nhw wedi gwneud fawr ddim 芒'u bywydau a fawr ddim amser ar 么l.
Arferai Morris chwarae drymiau mewn band - ac yn canu roedd Magi (Catrin Fychan).
Unig gynnwrf Yr unig gynnwrf yn eu bywydau yw gwylio rhaglen y loteri i edrych os ydyn nhw wedi dewis y rhifau lwcus - a s么n beth fuasen nhw'n wneud pe baen nhw wedi ennill yr arian.
Jean sydd fwyaf anhapus yn y briodas ond Morris wedi rhyw ddisgyn i rigol ac yn weddol hapus 芒'i fywyd.
Daw lwc i'w rhan ac maen nhw'n ennill dwy filiwn o bunnau. Does dim rhaid poeni am fil trydan, gallan nhw fforddio ddillad newydd a mynd ar wyliau drud - ac mae'r llythyrau gan bobl yn gofyn am arian yn dechrau cyrraedd.
Mae Ann (Catrin Fychan), chwaer Jean, a'i g诺r, Gwyndaf (Eilir Jones), yn rhagweld y bydd celc go dda yn dod i'w cyfeiriad nhw - ond does yna ddim, ac mae Ann yn edliw i'r chwaer a'r berthynas rhyngddyn nhw'n suro. Ann (Catrin Fychan) Ann (Catrin Fychan) Roedd Gwyndaf yn disgwyl rhywbeth llawer gwell na soap-on-a-rope ar 么l i'r ddau filiwnydd ddychwelyd o Los Angeles!
Ond ydy'r ddau yn dygymod 芒'r holl arian? Does dim awydd prynu car drud ar Morris, a phan fo Jean yn gorwedd ar ei gwely mewn ystafell foethus yn Los Angeles does dim wnaiff dorri ei syched ond shandi.
Ond, wrth gwrs, dydy ennill dwy filiwn o bunnau ddim yn atal Jean rhag parhau i wneud y loteri bob wythnos, ac mae Morris yn dal i gwyno fod pethau'n ddrud. Anodd yw mynd allan o hen arferiad.
Gwerth chweil Cyfieithiad o Lucky Sods gan John Godber yw Ffernols Lwcus.
Welis i erioed y ddrama Saesneg, ac wn i ddim os cadwodd Bryn F么n yn go agos at y fersiwn wreiddiol, ond beth bynnag am hynny mae hi'n gomedi werth chweil.
Gyda'r golygfeydd byrion mae hi'n symud yn sydyn ac mae hi'n ddoniol iawn ar brydiau. Aeth yr awr a hanner yn Theatr Gwynedd fel y gwynt.
Ac roedd Bryn F么n wedi cael hwyl dda ar ei haddasu i'r Gymraeg.
Am wn i ei fod wedi cadw'r gags gwreiddiol ond wedi Cymreigio'r sefyllfa gyda chyfeiriadau at Gaergybi, Bryn Terfel a chlybiau yfed ym Mangor.
Dosbarth gweithiol Portreadu dosbarth gweithiol Saesneg mae Lucky Sods ond aelodau o'r dosbarth gweithiol Cymraeg gawson ni - rhai o ardal Caernarfon, wrth gwrs.
Cafwyd cyffyrddiadau difyr fel Morris yn s么n mai un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous ei yrfa fel drymiwr oedd chwarae yng Nghaergybi - a dod oddi yno'n fyw!
A phan fo Ann yn darllen rhai o'r llythyrau gafodd y ddau enillydd yn apelio am arian, mae hi'n cael trafferth efo'r geiriau Cymraeg 'mawr'.
Un rheg Yn wahanol i lawer o gynhyrchiadau Bara Caws, un rheg a gafwyd yn Ffernols Lwcus, a honno'n un effeithiol iawn. Ond gyda'r sgript mor ddoniol, doedd dim angen troi at regi i gael y gynulleidfa i chwerthin.
Roedd y set yn effeithiol iawn; rhyw fath o lwyfan bychan yn troi o fod yn soffa mewn tŷ^ i fod yn wely mewn ysbyty ac yn lolfa t欧 moethus.
Roedd cylch uwchben y llwyfan ac ynddo rhwng pob golygfa ceid peli'r loteri yn troi a throsi fel pe mewn peiriant golchi. Newidiai'r llun o olygfa i olygfa - o felinau gwynt yr Iseldiroedd i fynwent i skyscrapers LA.
Actio da Cafwyd actio da iawn, gyda phob cymeriad yn un real.
Doedd yr un yn sefyll allan yn well na'r lleill a da hynny. Cyfuniad o sgriptio da a phortreadu gwych.
Ond oedden nhw'n hapus wedi ennill yr holl arian? Ddywedai ddim wrthoch chi ond gallwch ddychmygu fod yna dyndra rhwng sawl un ac mae tro annisgwyl ar y diwedd.
Gwendidau? Oedd yna wendidau? Fawr ddim, er, doeddwn i ddim yn teimlo fod 'Mam' Catrin Fychan yn yr ysbyty yn taro deuddeg ond roedd ei phortread o Ann feddw yn wych.
Ac roedd Eilir Jones ychydig yn rhy debyg i Ffarmwr Ffowc ar y dechrau, ond mi ddatblygodd y cymeriad yn ystod y ddrama a'r cymeriad yn setlo i lawr.
Ac roeddwn i'n teimlo nad oedd yr eiliad yr oedden nhw'n canfod eu bod wedi ennill y loteri mor glir 芒 hynny ar y pryd. Ond gwendidau bychain iawn oedd y rhain.
Mae'r ddrama ar daith tan ddiwedd Mai ac os ydych chi eisiau awr a hanner o ddiddanwch pur, ewch i'w gweld hi.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|