| |
|
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones Dim troi ar y drol! Ymateb Cadeirydd Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru
Wrth ymateb i sylwadau Ceri Sherlock dywedodd Lyn T Jones fod y cwmni yn hapus nid yn unig gyda phenodiad Cefin Roberts yn gyfarwyddwr artistig ond hefyd gyda'r cynhyrchiad presennol sydd wedi denu cynulleidfaoedd da meddai.
Mi benderfynodd y bwrdd ddewis y person gorau posib ar gyfer y swydd ," meddai, "ac mae hynny yr un mor wir heddiw ag oedd yr adeg honno."
Aeth ymlaen i gyhuddo Mr Sherlock o osod ei feirniadaeth o'r Theatr genedlaethol ar seiliau theatr genedlaethol Seisnig "os nad Ewropeaidd".
"Dydw i ddim yn meddwl fod y bwrdd na'r cyfarwyddwr yn edrych ar y Theatr fel rhywbeth i gop茂o unrhyw genedl arall yn Slafaidd. Mae'n rhaid i'r theatr genedlaethol Gymraeg adlewyrchu'r bywyd Cymreig," meddai.
Gwadodd i Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru gael ei sefydlu ar draul cwmn茂au bychain eraill.
"Rhan o'r holl broses oedd fod y Theatr Genedlaethol yn bodoli ochr yn ochr a'r holl gwmn茂au eraill oedd gyda ni - sef yr amrywiaeth theatrig sydd gyda ni yng Nghymru ac mae hynny yn hollbwysig neu mae'r holl beth yn syrthio'n ddarnau.
"Mae'n berffaith iawn i ddweud na all y theatr yng Nghymru ddim bodoli ar sail theatr genedlaethol yn unig. Mi fyddai hynny yn nonsens llwyr oherwydd mae'n rhaid wrth rhyw fath o strwythur theatrig ac mae hynny'n cael ei greu."
Dywedodd fod sylwadau Ceri Sherlock am Cefin Roberts yn profi ei "anwybodaeth" am gefndir theatrig Mr Roberts.
Pwysleisiodd na fydd unrhyw ailfeddwl wrth i'r hyn a alwodd Gwilym Owen yn "drol" theatrig gael ei gyrru ymlaen.
" "Does dim un rhyw fwriad i droi cyfeiriad y drol na rhoi ceffylau newydd i dynnu'r drol honno," meddai.
Am y dewis o Romeo a Juliet dywedodd: "Fe ddewiswyd y cynhyrchiad oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i nifer fawr o actorion ifanc gydweithio gyda nifer o actorion profiadol ac mae hwnnw yn un o'r elfennau pwysicaf sydd gennym ni i weithio efo nhw," meddai.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|