| |
|
Frongoch Carcharu Gwyddelod yng Nghymru
Am chwe mis yn 1916 cadwyd bron i ddwy fil o Wyddelod yn garcharorion mewn gwersyll yng nghefn gwlad Cymru.
Dynion a llanciau oeddan nhw oedd wedi cymryd rhan yn y gwrthryfel yn erbyn Prydain a daethpwyd i adnabod y gwersyll yn y Frongoch ger Y Bala fel "Prifysgol Chwyldro" gan y rhai fu yno.
Gyda'r amlycaf o'r carcharorion oedd Michael Collins o brif arweinwyr gwrthryfel rhyddid Iwerddon.
Ar daith Mae hanes y gwersyll hwnnw a phrofiad rhai fu yno yn awr yn destun drama a fydd yn cael ei pherfformio yn Iwerddon yn ogystal 芒 Chymru.
Mae'n agor yn Theatr Gwynedd, Bangor, Chwefror 8, 2005, ac wedyn yn mynd ar daith o gwmpas Cymru.
Yr awduron ydi Ifor ap Glyn a Mich谩el Conghaile a defnyddir tair iaith ar y llwyfan, Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg.
Richard Elfryn fydd yn action rhan 'Y Cymro' gydag actor 24 oed o Iwerddon, Caiomin O Conghaile, yn chwarae rhan 'Y Gwyddel'. Michael Atkinson fydd 'Y Sais'.
Mae'r cynhyrchiad, gan gwmni Llwyfan Gogledd Cymru a Project Arts Dulyn, yn canolbwyntio ar stori meddyg y gwersyll.
Meddai Ian Rowlands, y cyfarwyddwr: "Mae gormod o siarad wedi bod am frawdgarwch Celtaidd heb ystyried yn ddwys ei ystyr - os oes ystyr iddo! Y mae llu o gamddealltwriaeth rhwng Iwerddon a Chymru, gyda'r cynhyrchiad hwn, ein gobaith yw adeiladu pontydd".
Trychineb meddyg o Gymro Mae'r cynhyrchiad yn ymwneud 芒 hanes meddyg y gwersyll, Cymro Cymraeg, bardd ac eisteddfodwr brwd, David Peters.
Effeithiodd amgylchiadau yn y gwersyll gymaint arno ef y lladd ei hun.
Cafodd Dr Peters orchymyn gan yr awdurdodau i beidio a rhoi sylw i garcharorion oedd yn dioddef oherwydd eu bod ar streic newydd - gorchymyn oedd yn gwbl wrthyn iddo ac yn gwbl groes i'w egwyddorion a hynny berodd iddo foddi ei hun yn Afon trywryn gerllaw.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|
|